Gig i gefnogi apêl Twrci a Syria

Elw’r noson ar 18 Chwefror yn Neuadd Ogwen yn mynd i gefnogi’r ymdrech

Carwyn
gan Carwyn

Yn dilyn y delweddau dychrynllyd o Dwrci a Syria dros y dyddiau diwethaf yn dilyn y daeargrynfeydd, mae gig arbennig i gefnogi’r ymdrech yno yn cael ei gynnal yn lleol.

Mae elw’r noson fydd yn cynnwys Banda Bacana a DJ Fflyffilyfybl yn Neuadd Ogwen yn mynd i gefnogi’r apêl ddyngarol.

“Rydyn ni i gyd eisiau helpu sut y gallwn ni pan mae trychineb fel ar hyn o bryd yn Dwrci a Syria,” meddai neges gan y trefnwyr.

“Rydym yn cynnal gig gyda BANDA BACANA a DJ FFLYFFILYFBYBL ar NOS SADWRN 18.2.2023 gyda’r holl werthiant tocynnau yn mynd i’r DISASTERS EMERGENCY COMMITTEE.”

Bydd y drysau yn agor am 7.30pm – pris tocyn yn £10.

I brynu tocyn o flaen llaw ewch i wefan Neuadd Ogwen yma.