Os ydych chi byw yn ardal Dyffryn Ogwen, mae’n ddigon posib y byddwch wedi clywed yr enw Elusen Ogwen, ond ydych chi erioed wedi ystyried ceisio am nawdd ariannol ganddynt?
Beth yw Elusen Ogwen?
Elusen sydd yn dosbarthu elw o gynlluniau ynni llewyrchus Ynni Ogwen yw Elusen Ogwen. Mae Ynni Ogwen yn cynhyrchu trydan o ynni dŵr yr afon Ogwen, ac yna yn trosglwyddo’r elw i’r elusen. Pwrpas yr elw yma wedyn yw cefnogi cynlluniau fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau Dyffryn Ogwen.
Pa fath o weithgareddau maen nhw’n eu cefnogi?
Mae’r elusen yn awyddus i gefnogi unrhyw brosiect neu weithgaredd o fewn Cynghorau Cymuned Bethesda, Llandygái a Llanllechid sydd yn cyflawni unrhyw un o’r canlynol:
- Lleihau tlodi tanwydd a chymdeithasol
- Datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy
- Hybu trafnidiaeth gynaliadwy a theithio actif
- Arbed ynni
- Cysylltu unigolion o bob oed â’r amgylchedd
- Lleihau gwastraff
- Annog unigolion i wirfoddoli mewn prosiectau amgylcheddol yn eu cymunedau
- Gwella ansawdd yr amgylchedd lleol
- Cynyddu cynhyrchu / prynu cynnyrch bwyd lleol
Pwy sy’n gallu ymgeisio am arian gan Elusen Ogwen?
Grwpiau cymunedol cyfansoddedig, elusennau cofrestredig, unrhyw gwmni cydweithredol neu gwmni cyfyngedig trwy wariant.
Faint o arian sydd ar gael?
Gallwch ymgeisio am grantiau o hyd at £3000 o fewn un flwyddyn ariannol.
Sut a phryd mae angen gwneud cais?
Dyddiad cau’r ddwy rownd nesaf yw 30 Mehefin a 30 Medi. Er mwyn gwneud cais mae angen llenwi ffurflen. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ymgeisio Elusen Ogwen yma, a’r ffurflen gais ar waelod y dudalen yma. Os nad ydych yn siŵr os ydych yn gymwys, neu angen help gyda’r ffurflen gais, mae criw Elusen Ogwen yn fwy na pharod i gael sgwrs ac i’ch helpu. Gallwch gysylltu gyda Lowri Williams, Cadeirydd Gwirfoddol yr elusen ar elusenogwen@gmail.com.
Pwy sydd wedi derbyn nawdd yn barod?
Mae nifer fawr o fudiadau a grwpiau lleol eisoes wedi manteisio ar y cyfle gwych hwn i gael nawdd ar gyfer eu prosiectau. Dyma rai ohonynt:
- Rhoddwyd grant i Gyfeillion Ysgol Llanllechid i brynu deunydd ailgylchadwy ar gyfer ffair Nadolig yr Ysgol; pethau fel cartonau, cyllyll a ffyrc, llwyau ac ati.
- Rhoddwyd grant i Glwb Rygbi Bethesda brynu 750 o goed bach i’w plannu o gwmpas y clwb er mwyn annog bioamrywiaeth a chreu coridor bywyd gwyllt.
- Rhoddwyd grant i Glwb Gymnasteg Dreigiau’r Dyffryn i gyfnewid hen oleuadau stribed am rai newydd egni isel LED.
- Rhoddwyd grant i Bwyd am Byth i gynnal sesiynau garddio ac ysgol goedwig ar gyfer plant yr ardal dros wyliau’r haf
- Rhoddwyd grant i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i wella rhai o’r llwybrau sy’n arwain at guddfannau adar yng Ngwarchodfa Natur Aberogwen.
Mae’r arian yma ar gyfer y gymuned felly ewch amdani heddiw!
Cyswllt: elusenogwen@gmail.com
Gwefan Elusen Ogwen: https://www.ogwen.cymru/cy/prosiectau-cymunedol/elusen-ogwen/