Wedi graddio o’r brifysgol, roedd gwraig ifanc o Wlad Thai yn awyddus i gael profiadau newydd a phrofi diwylliant gwahanol. Pa le gwell na Dyffryn Ogwen i Noey Musikapong dreulio pum mis yng nghwmni teulu a gwneud ffrindiau newydd?
Er bod gan Noey deulu yn yr ardal, roedd Cymru a’r ardal yn newydd iddi.
Plas Ffrancon
Roedd y ferch 23 oed yn awyddus i gael profiad gwaith hefyd ac mae wedi bod yn ffordd wych iddi ddod i adnabod ffrindiau newydd.
Gyda modryb i Noey yn gweithio i gwmni Byw’n Iach ym Mhlas Ffrancon, roedd y ganolfan hamdden yn lleoliad amlwg.
“Ym mis Awst pan ddoth Noey yma i Fethesda, mi nes i feddwl iddi wirfoddoli yn rhywle yn lleol gan feddwl bysa Plas Ffrancon yn berffaith iddi,” esbonia Emma Williams, sy’n rheolwr ar ddyletswydd yno.
“Mae pawb yn adnabod pawb ym Methesda, ac ar ôl yr wythnos gyntaf roedd pawb yn adnabod Noey.
“Ar ôl iddi gychwyn efo ni yma ym Mhlas Ffrancon, roedd ei chylch ffrindiau yn tyfu bob dydd a’r iaith Gymraeg yn tyfu arni. Dwi’n meddwl na hoff eiriau Noey ydi ‘Diolch yn Fawr’.”
Profiadau newydd
“Ar ôl i mi raddio, roeddwn i eisiau magu profiadau gwahanol cyn dechrau gyrfa,” esbonia Noey.
“Mi nes i benderfynu dod draw i ogledd Cymru gan fod fy ewythr wedi symud yma flynyddoedd yn ôl a’i fod yn byw yma efo’i deulu. Doeddwn i ddim wedi ymweld o’r blaen felly mi roedd yn gyfle gwych.
“Roeddwn i awydd gwella fy sgiliau cyfathrebu a dysgu am ddiwylliant Cymru tra roeddwn i yma ac roedd Byw’n Iach yn lle arbennig i wirfoddoli.
“Mae staff Plas Ffrancon wedi dysgu lot i mi am fyw bywyd iach tra’n mwynhau. Mi ges i gyfle i fynychu sesiynau hyfforddiant gan ddysgu am gymorth cyntaf a fydd hynny siŵr o fod o ddefnydd.
“Wrth weithio ar y dderbynfa, gwersi ffitrwydd a ffair gyrfaoedd, rydw i wedi cael cyfle i ymarfer fy sgiliau cyfathrebu a chyfnewid ddiwylliant efo pobl Cymru.”
Diolch yn fawr
Gydag amser i Noey ddychwelyd adref i Wlad Thai ym mis Chwefror, dywed Emma Williams ei bod wedi ei gweld yn tyfu mewn hyder dros ei phum mis ym Methesda.
“Mae hi wedi datblygu llawer o sgiliau newydd, hyder, ffitrwydd, cymorth cyntaf, cyfathrebu a llawer mwy,” meddai Emma.
“Gobeithio wir fydd hi’n mynd yn ôl a defnyddio y rhain yng ngwlad Thail ag yn cofio am Fethesda a Phlas Ffrancon.”
Wedi treulio pum mis yma, mae hi bron â bod yn amser i Noey ddychwelyd adref.
“Mae amser yn hedfan,” meddai.
“Rydw i wedi mwynhau fy amser yma, ac yn arbennig rŵan efo eira ar y mynyddoedd. Dwi’n mwynhau cerdded o amgylch yr ardal a’r golygfeydd!
“Dwi wedi bod i ben Moel Faban ac roedd yn lle anhygoel. Cael gweld yr holl ardal a gweld holl brydferthwch.
“Diolch yn fawr Bethesda!”