Mae drama ddiweddaraf Wyn Bowen Harries yn datgelu hanes colledig tywyswyr mynydd cynnar o’r ardal.
Bydd ‘Creigiau Geirwon’, sef trydydd cynhyrchiad Cwmni Pendraw yn dod i Pontio ym Mangor fis nesaf. Bydd y sioe sydd i’w gweld o 22 hyd 24 Mehefin yn cyflwyno hanes tywyswyr mynydd cynnar Cymru, stori o’n hanes lleol sydd heb dderbyn digon o sylw yn y gorffennol.
Hanes anghyfarwydd i lawer
Yr actor Wyn Bowen Harries sydd y tu ôl i’r cyfan. Fo sydd wedi ysgrifennu’r ddrama, ei chynhyrchu a’i chyfarwyddo, gyda Kate Lawrence yn cyfarwyddo’r ddawns fertigol.
“Dyma agwedd ar ein hanes sy’n newydd i’r rhan fwyaf ohonom,” meddai Wyn.
“Rydym ella’n gwybod bod artistiaid y 18fed ganrif wedi teithio i Eryri i baentio’r golygfeydd ‘gwyllt’ rhamantus, a bod botanegwyr cynnar wedi ymweld i ganfod a chasglu planhigion prin, ond roeddynt angen gwybodaeth leol i gyflawni hyn.
“Yn amlwg, roedd rhai brodorion yn fotanegwyr da. Roeddynt yn adnabod y planhigion prin a’r mannau lle y tyfant.
“Mae’r sioe yn cyflwyno peth o’u hanes, a gyda newid hinsawdd a’r bygythiad i’n planhigion gwyllt, mae’r wybodaeth hanesyddol am blanhigion yn ddefnyddiol i ni heddiw.”
Roedd rhai o’r tywyswyr mynydd cynnar, yr entrepreneuriaid o blith tyddynwyr, tafarnwyr a chwarelwyr, yn gweld cyfle i ennill ceiniog drwy rannu’u gwybodaeth leol wrth arwain botanegwyr, artistiaid, ac eraill, ar hyd llethrau geirwon Eryri.
Perfformwyr lleol
Mae ‘Creigiau Geirwon’ yn addo dathlu hanes cyfoethog yr ardal trwy ddrama, hiwmor, cerddoriaeth byw a dawns fertigol!
Bydd yr actorion Iwan Charles, Llŷr Evans a Manon Wilkinson yn defnyddio hiwmor a drama i’n tywys drwy’r hanes, gan ein cyflwyno i sawl cymeriad ar hyd y daith.
Byddant yn cael eu cefnogi gan gerddoriaeth fyw gan Casi Wyn , a Mared Williams ar ddydd Sadwrn Mehefin 24 a Patrick Rimes ynghyd a dawnswyr fertigol Vertical Dance Kate Lawrence. Mae’r cyfuniad unigryw o ddrama a dawns fertigol yn gyfrwng delfrydol i gyfleu dringo ar hyd llethrau caregog a’r heriau a gyfleir gan y mynyddoedd.
Dyma drydydd cynhyrchiad Cwmni Pendraw. Mae’r cwmni theatr yn arbenigo mewn cyflwyno themâu hanes a hinsawdd drwy gynyrchiadau hollol unigryw a gafaelgar.
Mae isdeitlau Saesneg ac arwyddo BSL yn y sioe. Noddir y cynhyrchiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Edward Llwyd a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau.
Bydd y sioe i’w gweld yn Theatr Bryn Terfel ym Mhontio o 22 hyd 24 Mehefin. Am fwy o fanylion a phrynu tocynnau, ewch i wefan Pontio.