Clywed am swyddi yn y maes gofal yn lleol

Digwyddiad recriwtio gofal yng Nghanolfan Cefnfaes

Carwyn
gan Carwyn
D6BB9616-07F2-4352-88AC

Oes gennych chi ddiddordeb mewn swydd fel gofalwr?

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiwn recriwtio i ddenu staff newydd ar gyfer timau gofal cymdeithasol yn Nyffryn Ogwen – gyda chyfleoedd ar gael ym Methesda ei hun, ac ardaloedd cyfagos.

Fel rhan o ymgyrch recriwtio, bydd modd clywed mwy a holi staff gofal mewn digwyddiad yng Nghanolfan Cefnfaes, Ffordd Mostyn, Bethesda ar ddydd Gwener, 27 Ionawr, o 1pm tan 5pm.

“Gwneud gwahaniaeth”

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Gofal Oedolion Cyngor Gwynedd:

“Gyda heriau recriwtio staff cyffredinol yn y maes gofal, rydw i’n falch o glywed am y digwyddiad hwn sy’n agored i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am gyfleoedd yn y maes.

“Mae gweithio mewn swyddi o’r math yma, a gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl fregus yn eich cymuned eich hun, yn gallu rhoi boddhad mawr felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i alw heibio.

“Mae gan dimoedd Oedolion, Plant ac Anableddau Dysgu’r Cyngor gyfleoedd gwaith yn yr ardal ar hyn o bryd a bydd gwybodaeth hefyd ar gael am ba gefnogaeth sydd gan y Cyngor a’r Ganolfan Byd Gwaith i gefnogi unigolion i waith.”

Hyfforddiant ar gael

Ar y diwrnod, bydd cyfle i glywed am fanteision gweithio i’r Cyngor, gwybodaeth am yr hyfforddiant a chefnogaeth sydd ar gael i staff newydd, blas ar ofal a bywyd gweithio yn ein gwasanaethau gan ein staff parod.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb gwybod mwy – bydd y sesiwn ar agor o 1pm tan 5pm ar brynhawn Gwener, 27 Ionawr yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda.