Mae criw lleol wedi gosod her a hanner i gasglu arian i osod cofeb am gyfaill annwyl.
Bu farw Hefin Hughes yn 2021, ac fel teyrnged i un oedd mor gyfarwydd i nifer yn lleol mae criw o ffrindiau wedi gosod sialens gerdded arbennig.
Y sialens fwyaf eto
Mae Dylan Hughes a’i gyfeillion yn hen gyfarwydd â heriau cerdded mynyddoedd yr ardal. Ond mae hon yn mynd â nhw ymhellach ac yn uwch – a hynny i goffau Hefin Hughes, “tad a ffrind arbennig”.
“Rydw i, Dylan Jumbo ac Arwyn (Giles) Griffith wedi cymryd rhan mewn amryw o sialensau yn y gorffennol megis y ’15 Copa’ a’r ’24 awr NTP’,” meddai Dylan.
“Felly, pa ffordd well i gofio am Hefin na gwneud sialens llawer mwy na unrhyw sialens arall, yr un mwyaf heriol eto!!!!”
Everest?
“Er cof amdano, rydym wedi penderfynu cymryd rhan mewn her anferthol, sef cerdded mynyddoedd Eryri sy’n cyfateb i uchder mynydd mwyaf y byd, mynydd Everest,” meddai Dylan.
“Byddwn yn cerdded y 15 Copa, cefn yng nghefn, gan droedio copa’r Wyddfa sawl gwaith gan gofnodi’r uchder yn unig (cyfanswm o 29,030 troedfedd).
“Ein nod yw gwneud hyn mewn un cyfnod, sy’n sicr o’n gwthio ni i’r eithaf. Mae croeso i rywun ymuno â ni, neu gymryd rhan ar wahanol adegau o’r daith.
“Buasem yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth i gario nwyddau angenrheidiol, rhoi anogaeth ar y ffordd neu ddod i gefnogi mewn unrhyw fan cofrestru neu ‘check in point’.
“Os gwelwch yn dda a fuasech cystal â’n noddi ni drwy ddilyn y linc Go Fund yma.
“Rydym yn gwerthfawrogi bob ceiniog.
“Bydd yr holl gyfraniadau yn mynd tuag at gofeb i Hefin Hughes, giât unigryw i gofio am ddyn hynod arbennig i lawer. Diolch o galon!”