Catrin Wager yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer San Steffan

Y cynghorydd cymuned o Fethesda i sefyll yn etholaeth newydd Bangor Aberconwy

Llun o gyfrif Sian Gwenllian

Catrin Wager a Sian Gwenllian

Mae Catrin Wager wedi ei dewis fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad San Steffan nesaf.

Bydd Dyffryn Ogwen yn rhan o sedd newydd Bangor Aberconwy o’r etholiad nesaf.

Balchder

Wrth ymateb i’r newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Catrin Wager:

“Roedd ‘na ymgeiswyr gwych am yr enwebiad, sy’n destament i’r angerdd a’r egwyddorion cryfion sydd o fewn ein plaid.

“Roeddwn i’n teimlo balchder mawr o gael rhannu llwyfan efo dau mor arbennig â Paul a Lisa yng nghyfarfodydd dewis Llanrwst a Bangor.

“Mae’n fraint arbennig cael y cyfle i fynd â’r frwydr am gymdeithas decach, wyrddach a mwy cynhwysol ymlaen i etholiad cyffredinol.”

Mae rhagor o fanylion pam fod Catrin Wager yn sefyll i’w weld yma. Yr ymgeiswyr eraill am yr enwebiad oedd y Cynghorydd Sir lleol, Paul Rowlinson a Lisa Goodier.

O Fangor i Lansannan

Wrth gyhoeddi’r ffaith fod Catrin Wager wedi ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru, dywedodd Aelod Senedd Cymru lleol, Sian Gwenllian:

“Llongyfarchiadau i Catrin Wager ar gael ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer y sedd newydd yn San Steffan, Bangor Aberconwy, sedd sy’n ymestyn o Fangor i Lansannan.”

Newid etholaeth

“Bydd Bangor, ardal sy’n agos iawn at fy nghalon fel dinas fy ieuenctid, yn symud o sedd bresennol Arfon. Bydd Dyffryn Ogwen hefyd yn symud,” dywedodd Sian Gwenllian.

“Bydd y ddwy ardal yn aros yn rhan o sedd Arfon yn Senedd Cymru a byddai’n wych gallu cydweithio efo Catrin dros yr ardal yn enw Plaid Cymru – Catrin yn Llundain a minnau yng Nghaerdydd.

“Mae’n anodd meddwl am ymgeisydd gwell na Catrin i gynrychioli’r ardal hon, gwaith y mae eisoes wedi’i wneud mor ddygn fel Cynghorydd Sir ym Mangor a chynghorydd cymuned yn Nyffryn Ogwen.

“Mae’n ymgyrchydd brwd a byddai’n eiriolydd effeithlon dros yr etholaeth.”

Gwleidydd egwyddorol

Llongyfarchwyd hi hefyd gan Aelod Seneddol lleol, Hywel Williams a fydd yn sefyll lawr yn yr etholiad nesaf.

“Mae Catrin yn wleidydd egwyddorol ac rwy’n gwybod ei bod â’r crebwyll gwleidyddol a’r dyhead dros gyfiawnder cymdeithasol i frwydro dros hawliau pobol Bangor Aberconwy,” meddai.

“Daw Catrin â chyfoeth o ymgyrchu cymunedol â hi, ac mae ganddi’r empathi sydd ei angen wrth wrando a gweithredu ar ran ein pobol fwyaf bregus. Edrychaf ymlaen i gydweithio yn agosach â hi dros y misoedd nesaf.”

Disgwylir mai Robin Millar, Aelod Seneddol presennol Aberconwy, fydd yn sefyll ar ran y Blaid Geidwadol yn yr etholiad seneddol nesaf.
Bydd manylion ymgeiswyr y pleidiau eraill yn cael eu cyhoeddi pan fyddant yn cael eu cadarnhau.