Blwyddyn newydd yng ngerddi’r fro

A’r dyddiau dal yn oer a thywyll, dyma amser gwych i ddechrau cynllunio ar gyfer ein mannau gwyrdd

gan Judith Kaufmann

Mae llysiau olaf y llynedd yn dechrau mynd yn hen, ac mae tŷ gwydr Gardd Ffrancon yn araf gael ei chwalu yn y gwynt a’r glaw. Ond mae tymor newydd ar y gorwel, a garddwyr cymunedol a phreifat yn dechrau ysu am gael eu dwylo yn y pridd unwaith eto.

Bydd Gardd Ffrancon yn ddyflwydd oed eleni, a byddai’n hyfryd cael aelodau newydd i’n tîm. Rydym yn chwilio am bobl sy’n dda efo gwaith coed a thŵls – adeiladu ‘cold frames’ a bwrdd potio, codi gwlau uchel, gosod tanciau dŵr.

Hefyd, byddai’n dda cael parau ychwanegol o ddwylo ar gyfer y tasgau garddio parhaol. Mae’r tasgau yn cynnwys dyfrio, chwynnu, hau, plannu blodau, cynllunio gwlâu llysiau…, ac nid oes angen profiad. Y cwbl sydd ei angen ydi awydd i roi cynnig arni a thipyn o amser.

Gallwch ddod un ai fel rhan o’r giang wythnosol, neu yn eich amser eich hun. Ar y cyfan, mae’n fwy o hwyl efo pobl eraill yna! Mae yna ddigon o amser i gael sgwrs ac i drafod syniadau bach a mawr a rhoi’r byd yn ei le.

Neu beth am fagu planhigion yn eich tŷ gwydr neu ar eich silff ffenest eich hunain er mwyn inni eu plannu allan nes ymlaen? Neu os oes gennych chi drelar ac yn gallu nôl compost, byddai hyn yn help mawr hefyd. Mae digon o gyfle i fod yn greadigol, i drio a dysgu pethau newydd, ac i gyfarfod pobl.

Ar hyn o bryd, rydym yn cyfarfod bob prynhawn dydd Mawrth 2-4, i gychwyn yn ôl ym mis Chwefror, ond gallwn gynnig dyddiad ac amser arall os oes digon o bobl.

Os oes gennych chi grŵp cymunedol neu griw o staff a fyddai’n licio dod draw i helpu unwaith neu bob hyn a hyn, cysylltwch efo ni i drefnu.

Ac nid Gardd Ffrancon ydi’r unig ardd gymunedol yn y fro! Mae gennym ni ardd y Llyfrgell planhigion yn y Gerlan, a Llys Dafydd a gardd fach Tantwr yn y Stryd Fawr.

Byddai bob un ohonynt yn falch o gael tipyn o sylw gan y cymdogion! Ac efallai bod gennych chi syniad am lecyn arall allai wneud efo tipyn o TLC?

Cofiwch gysylltu os oes gennych chi gwestiwn! judith@ogwen.org neu 07967 115508.