Yn y blog heddiw: y diweddaraf o’r holl weithgareddau a digwyddiadau sy’n digwydd yng Nghanolfan Cefnfaes.
Os ydach chi’n dod draw, cofiwch ‘ychwanegu diweddariad’ eich hun – lluniau, fideos, sylwadau am bopeth i wneud â’r ŵyl.
A dyna ni am 2023. Chwip o ŵyl a digwyddiadau amrywiol trwy gydol y penwythnos i ddathlu merched y Carneddau!
Cofiwch y bydd Pererindod Eglwys Wyllt yn cychwyn o Lyfrgell y Planhigion yn Gerlan am 6 i gloi Gŵyl Gwenllian eleni.
Mae’n amlwg fod pawb wedi cael hwyl ar y gwehyddu ar lethrau Moel Faban!
Y tywydd wedi dal ar gyfer y daith gerdded Moel Faban.
Cyfle i glywed dipyn o hanes a mwynhau’r olygfa tra’n gwehyddu.
Diolch Leisa Mererid am sesiwn ioga llawn hwyl! Braf cael bod allan – mae Gerddi Ffrancon yn hyfryd bore ma.
Dewch yn llu i ymarfer Ioga allan yng ngerddi Ffrancon
Taith beics yn gadael Canolfan Cefnfaes- pob hwyl genod!
Bore ma, mi fydd Leisa Mererid yn arwain dosbarth ioga i deuluoedd yng Ngerddi Cymunedol Ffrancon o 10:30 – 11:15 yn seiliedig ar ei llyfrau plant diweddar – Y Goeden Ioga ac Y Wariar Bach. Dewch â matiau ioga lle bo modd. Gweithgaredd yn rhad ac am ddim.
Dyna ni am heddiw, mwy bore fory o Ŵyl Gwenllian 2023.
Manon Steffan Ros yn darllen o’i nofel Llyfr Glas Nebo.