Yn y blog heddiw: y diweddaraf o’r holl weithgareddau a digwyddiadau sy’n digwydd yng Nghanolfan Cefnfaes.
Os ydach chi’n dod draw, cofiwch ‘ychwanegu diweddariad’ eich hun – lluniau, fideos, sylwadau am bopeth i wneud â’r ŵyl.
Mae’r sgwrs celf yn cael ei harwain gan Rebecca Hardy Groffith. Yn cychwyn gydag Anna Pritchard yn trafod ei gwaith sy’n dwyn ysbrydoliaeth o nodau clust defaid ac sydd i’w weld fel patrymau yn ei gwaith.
Mel Davies yn esbonio mai dathlu merched y Carneddau ydi thema Gŵyl Gwenllian eleni!
Tyrfa dda yn barod am y sgwrs gudag artistiaid lleol.
Mae gwirfoddolwyr Hwb Ogwen anhygoel wedi paratoi bwyd lyfli i fynychwy’r gweithgaredd celf😋
Gwaith celf gan yt artistiaid sy’n rhan o’r sesiwn drafod
Sesiwn Cynefin a chreu yn cychwyn am 12.30!!!
Paratoi at tê pnawn nes ymlaen – bara brith a shortbreads gan Cegin Karen, picil a menyn afal gan Cynnyrch Chwarel Goch I fynd efo caws Brefu Bach o Gosyn Cymru (gyda llaw, mae Brefu Bach newydd ennill Caws Cymreig Gorau yn yr Artisinal Cheese Awards yn Melton Mowbray!!)
Lyfli gweld y creadigrwydd bore ma!
Gweithgaredd celf i blant am ddim – dewch i greu 🙂
Mae gweithgaredd celf i blant ymlaen am 10:30 efo Menna T. Fydd Hwb Ogwen hefyd yno i ddarparu cinio am ddim i’r mynychwyr. Gobeithio gweld chi yno!