Beca yn Is-gadeirydd Cyngor Gwynedd

Cynghorydd Tregarth a Mynydd Llandygai wedi ei hethol yng nghyfarfod blynyddol

thumbnail_image0-972x601-1

Y Cynghorydd Beca Roberts ydi is-gadeirydd newydd Cyngor Gwynedd

FvSUx1VWAAQTAhl

Beca Roberts sydd wedi ei hethol yn is-gadeirydd y Cyngor Sir gyda’r Cadeirydd newydd, Medwyn Hughes

Mae’r Cynghorydd Beca Roberts wedi ei hethol yn Is-gadeirydd newydd ar Gyngor Gwynedd.

Mewn cyfarfod blynyddol llawn o Gyngor Gwynedd heddiw (4 Mai), fe gafodd y Cynghorydd dros ward Tregarth a Mynydd Llandygai ei dewis gan gyd-aelodau. Mae’r Cynghorydd Medwyn Hughes (Bangor) wedi ei ethol yn Gadeirydd am 2023/4.

Yn gynghorydd sir ers Mai 2022, bydd Y Cynghorydd Beca Roberts yn cymryd rôl is-gadeirydd am y flwyddyn nesaf.

Daw hyn wedi i Beca sicrhau gwobr ‘Seren y Dyfodol’ Plaid Cymru yng nghynhadledd y blaid yn ddiweddar am ei chyfraniad fel gwleidydd newydd.

Llongyfarchiadau mawr a phob hwyl yn y rôl.