Ymgolli yng ngŵyl Ara Deg 2022

Llond trol o artistiaid a digwyddiadau i’w mwynhau ym Methesda o 25 hyd 28 Awst

Carwyn
gan Carwyn
ARA-DEG-22-FINAL-724x1024-1

Ydych chi wedi trefnu i fynychu rhai o’r cyngherddau a’r digwyddiadau arbennig sy’n cael eu cynnal dros y dyddiau nesaf yma yn Nyffryn Ogwen fel rhan o ŵyl Ara Deg 2022?

Neu mi allwch drefnu tocyn ar wefan Neuadd Ogwen am y penwythnos cyfan a mwynhau pob eiliad o’r hyn sydd i’w gynnig.

Ymgolli

“Ymgolli ydi thema ein cyfres o gigs eleni,” yn ôl y trefnwyr.

“Gyda’r byd yn deffro’n raddol o drwmgwsg y pandemic a’r byd yn arbennig o greulon ar hyn o bryd, rhwng y cynni cyffredinol, y rhyfeloedd a newid hinsawdd, dyma gyfle prin i ymgolli mewn cerddoriaeth, a ffurfio cymunedau cerddorol newydd rhwng artistiaid o bell ac agos.”

Mae’r ŵyl eleni eto yn cynnig llwyfan i artistiaid cyffrous o Gymru ac o bedwar ban byd.

Nos Iau, 25 Awst

Bydd y cyffro yn cychwyn ar nos Iau gyda BCUC (Bantu Continua Uhuru Consciousness) – rapwyr gwleidyddol ac ymfflamychol o Soweto.

Yna bydd yr anhygoel Adwaith yn perfformio wedi haf hynod brysur yn yr Eisteddfod a Glastonbury yn hyrwyddo eu halbwm newydd Bato Mato, byddant yn perfformio yn Neuadd Ogwen am y tro cyntaf.

Bydd y rapiwr drill o Benygroes, Sage Todz yn perfformio hefyd. Wedi blwyddyn i’w chofio gyda llwyddiant ei gân Rownd â Rownd yn arwain at recordio’r gân gofiadwy ‘O Hyd’.

Nos Wener, 26 Awst

Bydd band amryddawn Kate Stables, This Is The Kit, yn chwarae eu caneuon cynnes sy’n adnabyddus i wrandawyr Radio 6.

Mae’r gitarydd Ryley Walker yn hanu o linach arbrofol Chicago y nawdegau ond hefyd yn cyfuno gyda cherddoriaeth gitâr amrwd, cosmig, Americanaidd.

Dydd Sadwrn, 27 Awst

Mae yna ffair recordiau a sesiwn ddifyr yng nghwmni artistiaid a helpodd i greu gwaith celf ryfeddol i rai o recordiau cynnar Sain. Mae mwy o’r hanes yma.

Yna ar brynhawn Sadwrn bydd Gruff Rhys yn perfformio yng Nghapel Jerusalem. Perfformiad arbennig siŵr o fod.

Ac ar nos Sadwrn bydd yna noson arbennig yng nghwmni Ffrancon. Bydd cerddoriaeth electroneg Geraint Ffrancon o Fethesda yn siŵr o gael pawb yn y mŵd am noson wych.

Bydd nos Sadwrn hefyd yn cynnig cyfle i chi fwynhau Troupe Djéliguinet o Guinea. Dan arweiniad Fatoumata Kouyaté meistr o’r Balafon a griot, mae’n sicr o fod yn berfformiad i’w gofio.

Bydd perfformiad Carwyn Ellis & Rio 18 yn siŵr o gynnig ychydig o flas Brasil ond gyda thinc Gymreig. Cyfle gwych i weld un o berfformwyr mwyaf amryddawn Cymru yn neuadd Ogwen.

Nos Sul, 28 Awst

Mae Snapped Ankles yn grŵp byw unigryw a hollol anhysbys mewn gwisgoedd coediog. Noson wyllt er mwyn ymgolli a dawnsio.

Mae La Perla yn hanu o Bogotá yn driawd offerynwyr taro tanllyd, sy’n chwalu traddodiadau patriarchaidd y curiadau Colombiaidd.

Deuawd tanddaearol o Wrecsam ydi Cosmic Dog Fog sy’n cynnig synau electroneg amrwd a rhithiol sy’n galluogi’r gynulleidfa ymgolli’n llwyr.

Rhywbeth at ddant pawb felly yn Ara Deg eleni. Mae tocynnau ar gael ar gyfer nosweithiau unigol neu am yr holl ddigwyddiadau. Mae’r manylion yn llawn yma.