Taclo fandaliaeth a graffiti hiliol ger y Tynal Tywyll

Sawl achos wedi bod ar Lôn Las Ogwen rhwng Tregarth a Bethesda

Carwyn
gan Carwyn

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r Tynal Tywyll ar lwybr Lôn Las Ogwen rhwng Tregarth a Bethesda wedi dioddef sawl achos o graffiti a fandaliaeth sydd wedi difrodi’r goleuadau yn y twnnel.

Mae llawer o’r graffiti yn cyfleu negeseuon di-sail ynglŷn â brechlyn Covid-19 ac yn ddiweddar mae wedi cynnwys cyfeiriadau hiliol eithafol.

“Fandaliaeth ddi-hid”

“Mae’n drist iawn clywed am yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol, a’r hiliaeth yn arbennig,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

“Fandaliaeth ddi-hid yw’r graffiti sy’n creu pryder i ddefnyddwyr y Lôn Las ac ni ddylid ei ddioddef.

“Yn ogystal â’r pryder mae’r graffiti hyll yn ei achosi i drigolion sy’n defnyddio’r llwybr, mae costau glanhau’r graffiti ac atgyweirio difrod yn cymryd adnoddau prin ac amser staff. Dyma arian ac amser y gallai’r Cyngor fod yn ei ddefnyddio’n well i gynnal a gwella Lôn Las Ogwen.”

Llwybr poblogaidd

Fe ail-agorwyd yr hen dwnnel rheilffordd, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel y Tynal Tywyll gan Gyngor Gwynedd yn 2018.

Roedd yn cwblhau’r llwybr cerdded, beicio a marchogaeth 7 milltir o hyd sy’n ymestyn o Borth Penrhyn ar gyrion Bangor i Fethesda.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig: “Mae Lôn Las Ogwen yn llwybr hynod boblogaidd ac mae teuluoedd o bob oed wedi bod yn falch i allu teithio trwy’r hen dwnnel reilffordd dros y blynyddoedd diweddar.

“Mae’n siomedig bod ymddygiad lleiafrif yn difetha mwynhad pobl leol ac ymwelwyr sy’n dod o bob rhan o’r byd sy’n defnyddio Lôn Las Ogwen, ac yn difrïo grŵp lleiafrifol fel hyn.

“Rydym yn erfyn ar y rhai sy’n gyfrifol i barchu eiddo cyhoeddus ac i feddwl am effaith eu hymddygiad ar y gymuned leol, ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y mater i gysylltu gyda’r Heddlu.”

Annog y cyhoedd i helpu

Meddai’r Arolygydd Arwel Hughes o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae graffiti yn drosedd, mae’n gostus cael ei wared ac nid yw heb ddioddefwyr. Gall gael effaith sylweddol ar y rhai sy’n cael eu targedu ac rydym bob amser yn annog pobl i adrodd i ni fel y gallwn ymchwilio.

“Ni fydd y math hwn o droseddu yn cael ei oddef a bydd yn ymdrin ag o yn gadarn, felly byddwn yn annog pobl i fod yn wyliadwrus, riportio troseddau a’n ffonio ni ar 999 os ydyn nhw’n gweld trosedd ar y gweill.”

Mae’r digwyddiad wedi ei adrodd i’r Heddlu. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiadau yma, dylid cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ar wefan yr Heddlu gan nodi rhif digwyddiad B132336.