Pwy sydd awydd arlwyo ym Mwthyn Ogwen?

Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilio am arbenigwr arlwyo

Carwyn
gan Carwyn

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn awyddus i glywed gennych chi os ydych chi’n “arbenigwr arlwyo brwdfrydig, profiadol a hynod ddibynadwy i gefnogi ein partneriaeth ag Outward Bound Trust ym Mwthyn Ogwen yr haf hwn.”

Mae’r ymddiriedolaeth ‘Outward Bound’ yn cynnig gweithgareddau anturus yn yr awyr agored a phrofiadau preswyl i bobl ifanc. Mae Bwthyn Ogwen yn rhan o’r arlwy ers blynyddoedd lawer.

“Mae’r adeilad eiconig hwn wedi bod yn gysylltiedig â mynydda ac antur ers tro, traddodiad rydym yn ei gynnal trwy ddarparu profiadau dysgu awyr agored ar y safle mewn partneriaeth â Outward Bound Trust,” yn ôl y neges ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Fel arfer, mae tua 25-30 o grwpiau yn defnyddio Bwthyn Ogwen bob blwyddyn drwy’r ‘Outward Bound’
a hynny fel arfer o ddydd Llun i Gwener. Y disgwyliad fyddai arlwyo ar gyfer grwpiau o ryw 36 o bobl ifanc yn ystod yr ymweliadau yma.

Mwy yma am y manylion llawn ac i fynegi diddordeb.