Swyn Sain yn dathlu celf a cherddoriaeth Bethesda

Bydd 4 arlynydd yn rhannu ei atgofion o greu cloriau recordiau Sain

Rhys Jones
gan Rhys Jones
Swyn-Sain-2022

Delwedd Swyn Sain gan Jac Jones (yn seliedig ar clawr Hedfan gan Brân

Poster_Lle_Da_enfys

Poster Lle da gan Stuart Neesham

Meic-Gog-Garrys-copy-

Clawr Gog (recordiau sain 1977)

Eleni bydd gŵyl Ara Deg yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau ymylol yn Neuadd Ogwen, Bethesda. Yn bennaf, bydd gweithgareddau a digwyddiadau ar ddydd Sadwrn y 27ain o Awst. I dechrau’r diwrnod bydd ffair recordiau gyda nifer o recordiau prin a chasgladwy o’r 60au a’r 70au, a stondinau gan recordiau Ankst ac ambell record brin gan y Super Fury Animals , Brân ac eraill.

Hefyd, byddwn yn cael cyfres o sgyrsiau gyda 4 arlunydd a ffotograffydd a oedd yn rhan flaengar o greu rhai o gloriau a logos recordiau Sain. Bydd Swyn Sain (bydd yn dechrau am 1 o gloch y pnawn yn y Neuadd)  yn gyfle i holi yr artistiad wrth iddynt hel atgofion am y prosesau o greu y delweddau a lluniau, gyda llawer o’r recordiau hefo cysylltiad â Bethesda.  Yn cymryd rhan yn y sgyrsiau yma bydd Jac Jones, Stuart Neesham, Garry Stuart a Robert Eames.

Jac Jones oedd dyluniwr clawr Hedfan gan Brân, Yn Erbyn y Ffactore gan Edward H Dafis, record hir gyntaf Leah Owen a’r casgliad Goreuon Sain Eto. Roedd Stuart Neesham yn byw yn Llanllechid yn y 70au ac yn berchen ar yr argraffdy Enfys ar Lôn Caernarfon ym Mangor a fe ddyluniodd clawr llyfr Carodog Pritchard Afal Drwg Adda i Gwasg Gee. Roedd hefyd wedi creu posteri Lle Da, clwb ieuenctid yn neuadd Pont Tŵr.  Roedd hefyd wedi dylunio logos i’r band roc Cristnogol Yr Atgyfodiad a logo sengl Brân i recordiau Gwawr, a posteri i gigiau prifysgol Bangor.
Roedd Garry Stuart yn byw ar Stryd Dŵr yn Carneddi ac wedi gweithio gyda Jac Jones fel ffotograffydd clawr record 1977 Meic Stevens, Gog, ac mae Robert Eames yn ffotograffydd a dylunydd wnaeth greu clawr albwm olaf Brân, Gwrach y Nos.

I ddathlu’r achlysur yma byddwn yn cynhyrchu llawlyfr unigryw gyda lluniau bandiau gwreiddiol, posteri gigiau a chyfweliadau. Cost y digwyddiad fydd £4 (gan gynnwys y llawlyfr) neu medrwch archebu’r llawlyfr trwy wefan Neuadd Ogwen   https://neuaddogwen.com/ara-deg-2022/