Sicrhau dyfodol adeilad Cefnfaes

Cyngor Gwynedd yn lesu’r adeilad i Bartneriaeth Ogwen am ddegawd – sicrhau grant o chwarter miliwn gan Lywodraeth Cymru

Carwyn
gan Carwyn
Canolfan Cefnfaes

Mark Drakeford yn clywed am y cynlluniau ar gyfer Canolfan Cefnfaes y llynedd

Cefnfaes-1

Mae dyfodol cyffrous ar y gorwel i un o adeiladau pwysig Dyffryn Ogwen wrth i Gabinet Cyngor Gwynedd osod prydles a fydd yn sicrhau defnydd hir-dymor Canolfan Cefnfaes.

Wrth gymeradwyo prydles am y ddegawd nesaf , mae’r Cyngor yn galluogi Partneriaeth Ogwen i sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru fydd yn helpu i drawsnewid yr adeilad.

Grant o £225,000

“Y mae penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd i gynnig les 10 mlynedd ar adeilad Cefnfaes, Bethesda i Bartneriaeth Ogwen yn agor y drws i dderbyn grant o £225,000 gan Raglen Adnoddau Cymunedol Llywodraeth Cymru,” meddai Cynan Jones, Rheolwr datblygu Cefnfaes ar ran Partneriaeth Ogwen.

“Y mae cynlluniau uchelgeisiol gan y Bartneriaeth i ddatblygu Cefnfaes a fu yn ysgol ar ddechreu’r ganrif diwethaf ac yn ganolfan ieuenctid a chymdeithasol hyd yn ddiweddar i greu adnodd cymunedol o safon uchel.

“Rhan gyntaf y datblygiad yn creu adnodd cymunedol gyfoes ar gyfer heddiw. Ail ran fydd datblygu unedau busnes i’w gosod i fusnesau a sefydliadau lleol a’r drydydd rhan fydd creu Byncows safonol ar ochor orllewinol yr adeilad.

“O dderbyn y grant fe fydd y gwaith adnewyddu yn cychwyn ar unwaith ac y mae Partneriaeth Ogwen yn ddiolchgar i Wynedd am hwyluso’r broses.”

Canolfan fentergarwch

Yn dilyn ymgynghori cymunedol lleol a chomisiynu gwaith sgopio manwl, mae Partneriaeth Ogwen yn awyddus i ddatblygu Canolfan Cefnfaes yn ganolfan fentergarwch i gynnwys gofodau cymunedol, gofod gwaith (swyddfeydd, gweithdai) a byncws.

Yn dilyn y penderfyniad i lesu’r adeilad i’r bartneriaeth, dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

“Mae Canolfan Cefnfaes yn amlwg yn adeilad sylweddol yn Nyffryn Ogwen, ac rydan ni’n falch iawn o allu cefnogi gwaith cymunedol pwysig Partneriaeth Ogwen i ddod a bywyd newydd i’r safle.

“Mae Partneriaeth Ogwen yn gwneud gwaith arloesol yn yr ardal, ac mae ganddyn nhw gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr adeilad.

“Trwy brydlesu Canolfan Cefnfaes i’r bartneriaeth am y deng mlynedd nesaf, byddwn yn galluogi’r gwaith i fwrw ymlaen ar y cynlluniau cyffrous i sefydlu Canolfan Fentergarwch. Rydan ni’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn bwrw ymlaen.”

Edrychwn ymlaen at weld y cynlluniau yn datblygu a gweld bywyd newydd yn dod i’r hen adeilad.