Sialens Snwcer 24awr

Codi arian tuag at diffibriliwr i Glwb Criced a Bowlio Bethesda

gan Rhys Pritchard
F24C81DC-C7D3-4351-B17B

Rhwng 6yh ddydd Gwener 21/01 ac 6yh dydd Sadwrn 22/01 bydd Dylan Parry, Capten tîm Snwcer y clwb, yn ymgymryd a sialens chwarae Snwcer am 24 awr er mwyn codi arian i gael diffibriliwr i’r clwb.

Mae’r sialens hefyd er cof am Dylan Rowlands, aelod poblogaidd o’r chwaraewyr snwcer a’r clwb.

Bydd y diffibriliwr wedi ei leoli tu allan i’r clwb ag ar gael i unrhyw un sydd ei angen i’w ddefnyddio.

Os hoffech noddi, dyma’r linc!

Mae hefyd dal llefydd ar ôl yn 24 awr i chwarae ffram o snwcer yn erbyn Dylan, os yda chi awydd chwarae ffram cysylltwch.