Plaid Cymru’n mynd â hi yn etholiadau lleol

Pump aelod Dyffryn Ogwen wedi eu cadarnhau

Gyda thri o gynghorwyr wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad, roedd yna gryn ddisgwyl am ganlyniadau’r etholiadau cyngor sir heddiw.

Daeth cadarnhad fod Dafydd Meurig wedi ei ddychwelyd gyda buddugoliaeth glir yn ward Arllechwedd. Cafodd Dafydd Meurig (Plaid Cymru) 555 o bleidleisiau o’u cymharu â 81 Lewis Brown (Annibynnol) a 48 i Bernard Arthur Ronald Gentry (Ceidwadwyr).

Buddugoliaeth glir oedd hi hefyd i Beca Roberts sydd yn dechrau ar ei gwaith fel cynghorydd Tregarth a Mynydd Llandygai. Fe gafodd hi 663 pleidlais, i 197 Huw Vaughan Jones (Llafur) a 88 i John Hardy (Ceidwadwyr).

Doedd dim etholiad gan Rheinallt Puw (Canol Bethesda) na Paul Rowlison (Rachub) sydd ill dau yn dychwelyd fel cynghorwyr ar ran Plaid Cymru. Yn ymuno â nhw y bydd Einir Wyn Williams (Plaid Cymru) ar ran Gerlan.

Pob hwyl i’r pump ohonynt dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r canlyniadau llawn o etholiadau Gwynedd ar gael yma.