Perygl i ddyfodol Ti a Fi Rhiwlas

Fedrwch chi helpu i gynnal y grŵp?

Carwyn
gan Carwyn
24F4071A-96CD-4322-8A50

Mae pryder y bydd rhaid did â grŵp Ti a Fi Rhiwlas i ben oni bai bydd posib dod o hyd i drefnwyr i barhau’r gwaith.

Mewn neges ar dudalen Facebook Neuadd Rhiwlas mae apêl i deuluoedd i gefnogi’r grŵp sy’n cynnig cyfle gwych i blant a rhieni gymdeithasu.

“Biti garw”

“Cyn bo hir fe fydd yn rhaid i’r grŵp Ti a Fi yn y pentref ddod i ben, gan nad oes neb ar gael i’w drefnu a hefyd oherwydd bod cyn lleied o blantos yn dod yno,” meddai’r cais.

“Biti garw am hyn, gan nad oes dim byd arall yn y pentref ar eu cyfer.

“A oes ‘na rieni yn y pentref fasa’n fodlon cynnal y grŵp? Neu tybed fasa mwy nag un rhiant yn fodlon ei gynnal efo’i gilydd?”

Mae’r grŵp Ti a Fi yn cyfarfod bob bythefnos ar hyn o bryd ac yn cynnig lle i blant gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, ac mae hyn yr un mor wir am y rhieni hefyd!

Cyfle i drafod gyda’r arweinydd

“Ond mae angen mwy o blantos i fynychu gan fod niferoedd isel yn ei gwneud hi’n anodd i gwrdd â’r costau,” ychwanega’r cais Facebook.

“Mae’r arweinydd presennol yn hapus i drafod beth mae cynnal y grŵp yn ei olygu.

“Peidiwch â bod yn swil; os fedrwch chi helpu i gadw’r grŵp i fynd, CYSYLLTWCH OS GWELWCH YN DDA.”

Beth amdani, pwy allai helpu i gynnal grŵp sydd wedi cynnig noddfa hwyliog i blant s theuluoedd ardal Rhiwlas?