Tai Hen Orsaf – cyfle i ddysgu mwy

Grŵp Cynefin yn cynnal sesiynau gwybodaeth ar 1 Chwefror

Carwyn
gan Carwyn
IMG_8133

Llun cwmni Wakemans

IMG_8134

Llun cwmni Wakemans

272446556_4801327563235999

Gyda gwaith yn bwrw ymlaen yn dda ar ddatblygiad Hen Orsaf ym Methesda, mae sesiwn wybodaeth yn cael ei chynnal yn y Clwb Rygbi.

Bydd y datblygiad yn cynnwys 17 o gartrefi rhent cymdeithasol:

  • 1 tŷ 4 llofft;
  • 3 tŷ 3 llofft;
  • 8 tŷ 2 lofft;
  • 5 byngalo 2 lofft.

Mae dwy sesiwn wybodaeth yn cael eu cynnal ar ddydd Mawrth, 1 Chwefror. Y cyntaf o 3pm tan 4.14pm a’r ail o 5.15pm tan 6.30pm.  Rhaid cofrestru i fynychu, trwy ffonio 0300 1112122 neu e-bostio post@grwpcynefin.org a gofyn am Llio Griffiths neu Steffan Smith.

Bydd cyfle i glywed am y datblygiad ac i gofrestru diddordeb – gyda chynrychiolwyr o Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd yno i drafod ac ateb cwestiynau.

Os na fedrwch fynychu yn y cnawd, gallwch ymuno dros Zoom – cysylltwch ar y manylion uchod i drefnu.

Cymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n rheoli’r cynllun gwerth £2.5 miliwn. Y bwriad ydi gosod y cartrefi fel tai cymdeithasol mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, gyda’r cynllun yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.