100 milltir o sglefrio i godi arian at elusen

Aled Parry o Fethesda yn gosod nod mis Mai wrth godi arian at elusen cancr

Carwyn
gan Carwyn
280506213_10227596205632311

Mae gŵr o Fethesda wedi gosod her iddo’i hun i sglefrio 100 milltir yn ystod mis Mai wrth geisio codi arian i elusen Ymchwil Cancr.

Wedi colli perthnasau agos i’r clefyd dros y blynyddoedd diweddar, roedd Aled Parry yn awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd yr elusen.

Codi arian

“Dwi’n scatio 100 milltir ym mis Mai i godi arian i Cancer Research er cof am fy Nain Pat a’i gwr Alan,” meddai.

“Ddaru Alan farw ym Medi 2020, a Nain Pat ym Medi 2021 – y ddau yn colli eu bywyd i canser.”

Cofiwch gyfrannu

Mae Aled wedi bod wrthi ers dechrau’r mis, gan sglefrio dros 21 milltir yn ddiweddar mewn un sesiwn o Benmaenmawr i Bier Llandudno.

Ac mae hefyd i’w weld yn sglefrio ar hyd Lôn Las Ogwen, felly cofiwch roi floedd o gefnogaeth os byddwch chi’n ei weld yn ystod y mis ac yn bwysicaf oll, gallwch gyfrannu at ymdrech Aled yma.

Mae Aled yn dweud ei fod yn mwynhau, ond mae’n cyfaddef fod y sialens yn un heriol.

“Er fy mod wedi scatio ers yn oed ifanc, mae 100 milltir mewn mis dal yn nyts!”