Manuela yn ddysgwr y flwyddyn y bwrdd iechyd

Gwobrwyo yn ystod seremoni ar Ddydd Gŵyl Dewi

Carwyn
gan Carwyn
0A9C3805-5C07-4EC2-B69A
55E13736-E247-4AE2-A501

Mae Manuela Niemetscheck, Seicotherapydd Celf yn Hergest, Ysbyty Gwynedd wedi ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Manuela, sy’n wreiddiol o Ganada yn byw ym Methesda.

Roedd y beirniaid wedi gwirioni â safon iaith yr holl ddysgwyr, sy’n tanlinellu camp Manuela.

Cafodd Manuela bwyso’r botwm i oleuo Ysbyty Glan Clwyd yn Goch, Gwyn a Gwyrdd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant.

Llongyfarchiadau mawr!