Llais Ogwan – mynnwch eich copi fis Gorffennaf

Rhifyn yr haf ar gael o’r siopau a gwerthwyr lleol rŵan

Carwyn
gan Carwyn
IMG_8928

Mae rhifyn diweddaraf Llais Ogwan ar gael i’w brynu rŵan, a hynny am 50 ceiniog yn unig – bargen!

Rhifyn yn llawn lliw, newyddion, straeon ac erthyglau yn cynnwys:

  • Cynlluniau cyffrous ar gyfer yr Hen Bost (Spar gynt)
  • Cyswllt cerddorol hanesyddol rhwng Tregarth a Twynholm yn yr Alban
  • Cynllun i ail-ddefnyddio dillad ysgolion y dyffryn
  • Llwyddiant lleol yn Rali’r Ffermwyr Ifanc
  • Bws gwennol trydan newydd
  • Hanes ‘sgotwr cenedlaethol o’r Carneddi
  • Y diweddaraf gan Gôr y Penrhyn
  • Holl hanesion lleol o bentrefi ac ysgolion Dyffryn Ogwen a mwy…

Mynnwch eich copi!