Iechyd, lles a bwyd Gardd Ffrancon

Gardd gymunedol yn ennill gwobr yn ei blwyddyn gyntaf

gan Judith Kaufmann

Gardd Ffrancon, Bethesda

Adeiladu gwelau tyfu

Codi ty gwydr

Barod i blannu

Gwirfoddolwyr yn edmygu’r ffa

Cnwd cyntaf haf 2021

Sul rhannu hadau ddiwedd Mawrth 2022

Mae gerddi cymunedol yn Nyffryn Ogwen wedi ennill gwobr am reoli darn o dir yn gymunedol gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, dim ond blwyddyn ar ôl dechrau. Amser yma’r flwyddyn ddiwethaf, bu prosiect Dyffryn Gwyrdd a gydlunir gan Bartneriaeth Ogwen mewn trafodaeth gyda chwmni Byw’n Iach a chyngor Gwynedd am ddechrau gardd ar dir canolfan hamdden Plas Ffrancon ym Methesda. Awydd Byw’n Iach oedd cynnig gweithgareddau corfforol tu allan i annog pobl i gadw’n heini heb orfod mynd i’r gym neu ddosbarthiadau. Ar y llaw arall, mae ffocws Dyffryn Gwyrdd ar greu gweithgarwch sy’n dod â’r gymuned at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael â thlodi, diffyg bwyd lleol, ac unigrwydd, ac i wneud rhywbeth i atal newid hinsawdd.

Gyda grantiau i wneud y dechrau’n haws, wnaeth criw bach o wirfoddolwyr a staff Dyffryn Gwyrdd dreulio’r misoedd cyntaf i osod cytiau, tŷ gwydr, llwybrau, a biniau compost, a mynd ati i blannu coed ffrwythau, coed gwrych, perlysiau, a’r llysiau cyntaf. Mae’r gymuned yn gwerthfawrogi’r newid yn barod. Rydym yn cael sylwadau fel “Mae be dach chi’n gwneud yma’n wych. Mae wedi newid y le cymaint, a mae’n braf bod yr ardd mor agored.” Mae’r gwirfoddolwyr hefyd wrth eu bodd dod yma, gydag un yn dweud: “Mae’r gwasanaeth yma i’r gymuned yn anhygoel o werthfawr.”

Bwriad Gardd Ffrancon yw creu gerddi cynhyrchiol lle byddwn yn tyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau. Bydd y gwirfoddolwyr yn cael mynd â phethau adra, ond byddwn ni hefyd yn gweithio’n agos efo Pantri Pesda lle gallwn rannu a gwerthu’r llysiau, a chynnal sesiynau coginio i rannu hoff ryseitiau’r trigolion neu dysgu sgiliau coginio newydd.

Rydym ni hefyfd isio creu gerddi tlws! Rydym yn credu mewn cael llefydd braf i bobl ymlacio a mwynhau’r olygfa. Byddwn yn tyfu blodau, llwyni, ac ambell i goeden i ddenu gwenyn ac adar, a chreu amgylchedd gwell. Bydd bioamrywiaeth fel hyn yn dda i natur ein hardal, yn rhan o atal newid hinsawdd (drwy wella’r pridd, atal llifogydd, tynnu carbon deiocsid o’r aer…), ac yn dda i ni bobl hefyd – pwy sydd ddim yn teimlo’n hapus yn gweld blodau?

Mae garddio yn dda i’r meddwl a’r cydbwysedd emosiynol hefyd. Mae hyd yn oed y Prif Weinidog Mark Drakeford yn mynd i’w rhandir ar ôl gwaith i switsio off! Mae ‘na wastad tasgiau i bobl sy’n mwynhau gwneud rhywbeth mewn cwmni, ac i bobl mae gwell iddyn nhw weithio mewn cornel bach tawel. Meddai un o’r gwirfoddolwyr, “Mae mor braf i ddod yma, yn enwedig pan dach chi’n teimlo tipyn bach yn rough, mae’n gwneud i chi deimlo’n well.”

Mae gwirfoddolwyr yn dod atom ni drwy gynlluniau NERS a Chyfle Cymru, ac adran Llesiant oedolion y Cyngor. Rydym hefyd yn trafod cael cyfeiriadau drwy “bresgripsiwn gwyrdd” y feddygfa,  a pobl broffesiynol yn deall mor llesol ydi gweithgareddau awyr agored i iechyd ein corff a’n meddwl.

Mae rhandiroedd ar y safle hefyd, gyda 9 o drigolion wedi cymryd yr her yn barod i ddechrau trin eu sgwâr bach eu hunain. Mae rhagor o leiniau ar gael os dach chi awydd rhoi cynnig arni! Mae cymuned y rhandirwyr a’r garddwyr cymunedol yng Ngerddi Ffrancon yn cefnogi ei gilydd, ffeirio a rhannu, a chael sgwrs ar y meinciau newydd. Efallai hyd yn oed gawn ni drefnu gweithdai ar faterion garddio, neu drip i ymweld â gerddi cymunedol eraill!

Mae tîm y Dyffryn Gwyrdd hefyd yn gweithio mewn llefydd eraill yn y gymuned i greu mwy o erddi a llecynnau gwyrdd. Y gwanwyn yma, rydym yn cyflogi garddwyr lleol i redeg clybiau garddio yn yr ysgolion, a dysgu sgiliau i’r plant fydd yn aros gyda nhw ar hyd eu hoes. Rydym yn cydweithio gyda Adra a’r contractwyr i newid sut maen nhw’n torri’r glaswellt yn yr ystadau tai, er mwyn annog blodau brodorol i dyfu a rhoi tipyn o liw i’r ystadau. Gyda help gwirfoddolwyr y gymuned, rydym hefyd wedi plannu cannoedd o goed y gaeaf yma!

Mae ein sesiynau garddio wythnosol yng Ngardd Ffrancon yn digwydd bob dydd Mawrth, yn y bore 11-1, ac yn y prynhawn 2-4. Does dim angen profiad o gwbl, dan ni yma i ddysgu sgiliau efo’n gilydd.

Rydym hefyd am ddechrau sesiwn sgwrs a garddio ar gyfer dysgwyr Cymraeg bob nos Fawrth ola’r mis 5:30-7:00, yn cychwyn 26 Ebrill 2022. Croeso mawr i ddysgwyr a siaradwyr rhugl!

A be hoffech chi wneud yn yr ardd gymunedol? Cysylltwch â judith@ogwen.org.