Enwi car trydan newydd Dyffryn Ogwen

Mae’r car trydan yn rhan o fenter gyffrous Dyffryn Gwyrdd

Ar Goedd
gan Ar Goedd
LlanllechidDiolch i Ysgol Llanllechid am y llun

‘E-Fan’ yw’r enw sydd wedi ei roi ar gar trydan newydd Dyffryn Ogwen, sy’n rhan o brosiect Dyffryn Gwyrdd yr ardal.

Mae’r enw newydd yn chwarae ar yr enw Cymraeg ‘Efan’, yn ogystal â chyfeirio at rinweddau eco-gyfeillgar y car trydan newydd.

Enwyd dau gerbyd arall yn Car-nedd a Try-Fan, yn gwneud defnydd o enwau mynyddoedd lleol.

Dyffryn Gwyrdd

Cyhoeddwyd yr enw mewn seremoni arbennig yn Ysgol Llanllechid, a fynychwyd gan gynrychiolwyr o fenter Dyffryn Gwyrdd, disgyblion yr ysgol, yn ogystal â Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn Senedd Cymru.

Sefydlwyd Dyffryn Gwyrdd gyda’r bwriad o fynd i’r afael â materion cymunedol sy’n effeithio ar Ddyffryn Ogwen, yn cynnwys yr argyfwng hinsawdd, unigrwydd, a thlodi tanwydd.

Ond mae gobaith y bydd y car trydan newydd yn mynd i’r afael â her benodol iawn sy’n effeithio ar yr ardal, sef tlodi trafnidiaeth wledig.

Bydd y car trydan yn un cymunedol gyda chyfle i’w ddefnyddio i fynychu apwyntiadau ysbyty, yn ogystal â sicrhau bod tua 25 pryd ar glyd yn cael eu danfon yn wythnosol.

“Ysbryd cydweithredol”

“Roeddwn yn falch o gael bod yn bresennol yn agoriad swyddogol hwb y Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda rai wythnosau’n ôl, ac mae’n braf gweld gwaith arloesol y prosiect yn dwyn ffrwyth,” meddai Siân Gwenllian.

“Mae ’na ysbryd cydweithredol, cymunedol cryf yn Nyffryn Ogwen, ac mae ’na fentrau, prosiectau, a chyfleoedd gwirfoddoli yn egino ar draws y dyffryn o hyd.

“Mae’n braf gweld yr ysbryd o undod a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig yn parhau y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.

“Mae’n arbennig o galonogol gweld pwyslais prosiectau fel y car trydan ar gynaliadwyedd, yn enwedig o ystyried yr her ddigynsail sy’n ein hwynebu ar ffurf newid hinsawdd.

“Yn fwy na dim, roedd yn hyfryd gweld brwdfrydedd pobol ifanc y dyffryn.”