Howgets, ’da ni angen eich help!

Pleideisiwch i helpu Ogwen360 gyrraedd y brig ym mhrif wobr Bro360

gan Tomos Owen

Mae Cadw strydoedd Bethesda yn lân wedi’i enwebu ar gyfer y wobr ‘barn y bobl’ sy’n rhan o wobrau Bro360 2022.

Fedrwn ni gael stori o Fethesda i’r brig?!

Dyma’ch cyfle chi i helpu Ogwen360 i ennill Barn y Bobol eleni, wrth bleidleisio am y blog rhwng rŵan ac amser cinio 28 Ionawr.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Facebook Live Bro360 am 8pm nos Wener 28ain.

Yn ogystal, mae Ogwen360 wedi cael ei enwebu am y wobr Stori gwneud gwahaniaeth ar gyfer Troi Gwener Du yn Gwener Gwyrdd.

Cadwch lygad ar y cyfryngau i glywed pwy sy’n dod i’r brig!