Gweithgareddau Pasg ym Mhlas Ffrancon

Llond lle o fwynhau i blant a phobl ifanc

Carwyn
gan Carwyn
Camp-Chwaraeon
Cmp-Chwaraeon-Bach
Mynediad-Am-Ddim-i-Ddos-Ffitrwydd
Passbort
Soft-Play

Wrth i wyliau’r Pasg agosáu, mae yna lu o weithgareddau i blant a phobl ifanc yr ardal ar gael yng Nghanolfan Hamdden Byw’n Iach Plas Ffrancon.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael ym Mhlas Ffrancon rhwng 11eg a 22ain o Ebrill, yn cynnwys:

  • sesiynau chwarae meddal i’r plant ifancaf,
  • camp chwaraeon bach i’r criw 6-7 oed,
  • camp chwaraeon i’r plant 8 i 11 oed ynghyd,
  • sesiynau pasbort i bobl ifanc 11 i 15 oed.

Mae amserlen lawn ar gael ar wefan Byw’n Iach.

Bydd modd archebu lle deg diwrnod o flaen llaw a gallwch archebu lle drwy ffonio neu archebu ar-lein yma.