Cynllun tai fforddiadwy Llety’r Adar yn agosáu ym Methesda

Os oes gennych ddiddordeb yn y tai ar safle’r Hen Orsaf, cyflwynwch eich manylion cyn diwedd Chwefror

GC-Lletyr-Adar-Bethesda-1

Steffan Smith a Gwyndaf Williams o Grŵp Cynefin gyda Marian Jones, Cyngor Gwynedd a Llio Griffith, Swyddog Tai Grŵp Cynefin ar ymweliad a datblygiad Llety’r Adar, Bethesda

Tai newydd ym Methesda

Rhai o’r 17 o gartrefi amrywiol newydd gan Grŵp Cynefin sy’n cael eu hadeiladu i ddiwallu anghenion lleol ym Methesda

Tai Llety'r Adar

Rhai o’r 17 o gartrefi tai rhent cymdeithasol newydd gan Grŵp Cynefin sydd dan ddatblygiad ym Methesda

Mae’r gwaith ar ddatblygiad tai newydd ar safle’r Hen Orsaf ym Methesda yn bwrw ymlaen yn dda ac mae diddordeb mawr yn lleol yn y cartrefi fydd ar gael yn fuan.

Dyna’r neges yn dilyn sesiynau rhannu gwybodaeth lle daeth dros 50 o bobl i ddysgu mwy a chofrestru eu didordeb yn y tai fforddiadwy newydd sbon.

Llety’r Adar

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn cydweithio gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru i ddatblygu 17 o gartrefi newydd, mewn datblygiad gwerth £2.5 miliwn. Yr enw ar y stad fydd Llety’r Adar.

Mae’r tai rhent cymdeithasol, yn cynnwys 8 cartref dwy ystafell wely, 5 byngalo dwy ystafell wely, 3 chartref tair ystafell wely ac 1 cartref pedair ystafell wely. Byddant yn cael eu rhentu i ddiwallu’r angen lleol am dai o safon i ystod o bobol gyda chysylltiadau lleol.

“Edrych ymlaen at weld y cartrefi newydd…yn cael eu cwblhau”

Mae’r diddordeb diweddar yn y sesiynau yn dangos yr awydd clir am dai yn yr ardal.

Dywedodd Cynghorwyr Gwynedd, Rheinallt Puw a Paul Rowlinson sy’n cynrychioli trigolion lleol ardal Bethesda: “Rydyn ni gyd, yn lleol, yn edrych ymlaen at weld y cartrefi newydd ar safle’r hen orsaf yn cael eu cwblhau a’u gosod i denantiaid cyn gynted â phosib.

“Mae gwir angen cartrefi o’r fath yma yn Nyffryn Ogwen, a bydd yn helpu pobl i barhau i fyw a ffynnu yn yr ardal.

“Mae’n lleoliad delfrydol, yn agos at y cyfleusterau ar y stryd fawr, y feddygfa, y llwybr bws a Lôn Las Ogwen. Rhoddodd y digwyddiad diweddar gyfle i bobl ddysgu mwy am y tai a deall sut i wneud cais am un, os nad oedd pobl eisoes ar y rhestr dai.”

Ychwanegodd Steffan Smith, Arweinydd Tîm Tai Grŵp Cynefin: “Cawsom sesiynau gwybodaeth gwych yng Nghlwb Rygbi Bethesda, sydd ger safle hen orsaf reilffordd Bethesda, lleoliad datblygiad tai newydd Llety’r Adar.

“Roedd ein sesiynau yn llawn, gyda 50 o bobl yn mynychu neu’n cyfarfod yn rhithiol, i gadarnhau eu diddordeb ac i siarad â Thîm Opsiynau Tai Gwynedd i sicrhau eu bod ar y gofrestr rhestr tai.

“Ein swyddogaeth ni yn Tîm Tai Grŵp Cynefin yw clywed beth yw amgylchiadau gwahanol bobl, rhannu gwybodaeth am dai fforddiadwy sydd ar gael a’u harwain ar hyd y trywydd cywir. Rydym yn ceisio rhoi’r cyngor gorau posib i bobl, fel eu bod yn y sefyllfa gryfaf i geisio cyrraedd eu hanghenion tai personol.”

Mae’r cartrefi yn cael eu gosod fel tai cymdeithasol, ac mae’r datblygiad sy’n bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd, wedi ei ariannu’n rhannol drwy grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Cyfarwyddwr Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin, Mel Evans: “Mae darparu cartrefi hygyrch a fforddiadwy, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, yn greiddiol i’n gwaith ac rydym yn falch o’r cydweithio sydd yma ym Methesda.

“Mae gwir angen tai i deuluoedd a chyplau yng nghymuned Dyffryn Ogwen, felly rydym yn falch o allu cynorthwyo’r rhai sy’n gobeithio parhau i fyw yn yr ardal ond sydd wedi cael trafferth i ddod o hyd i dai addas a fforddiadwy yn y gorffennol.”

Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd: “Mae sicrhau tai o ansawdd sydd yn fforddiadwy i bobl Gwynedd yn flaenoriaeth i ni fel Cyngor Gwynedd ac rydym yn falch o allu cydweithio gyda phartneriaid ar y datblygiad yma ym Methesda.

“Bydd y cynllun yn cynnig 17 o gartrefi newydd yn Nyffryn Ogwen – gan gynnig amrywiaeth maint y tai fydd yn addas i aelwydydd gwahanol.  Mae’n glir o’r diddordeb yn y sesiynau diweddar fod yna ddiddordeb clir am y cartrefi newydd a dwi’n edrych ymlaen at weld trigolion lleol yn symud i mewn yn fuan.”

Mae’r cartrefi, sy’n cael eu hadeiladu i safonau carbon isel Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod yr holl eiddo yn y cynllun yn cwrdd â dulliau modern o adeiladu a chynaliadwyedd. Cwmni adeiladu Gareth Morris o Langollen a’i dîm yw’r adeiladwyr sydd ynghlwm â’r gwaith.

Mae Grŵp Cynefin yn awyddus i sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn y tai newydd yn cael pob cyfle i gofrestru eu diddordeb. Os am wneud cais, dylech wneud hynny gyda Thîm Opsiynau Tai Gwynedd erbyn 28 Chwefror fan bellaf.

Cysylltwch gyda Thîm Opsiynau Tai Gwynedd trwy e-bostio opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru, ffonio 01286 685100, neu Grŵp Cynefin ar e-bost post@grwpcynefin.org neu ffonio 0300 1112122.