Gwaith ffordd wrth arwain at dai newydd Llety’r Adar

Diffyg lle parcio ac oedi yn debygol wythnos nesaf tra mae gwaith yn bwrw ymlaen

Carwyn
gan Carwyn
IMG_8133

Llun cwmni Wakemans

Fel rhan o’r gwaith i adeiladu stad newydd o dai yn ardal yr Hen Orsaf ym Methesda, bydd gwaith ffordd yn cael ei gynnal dros y penwythnos.

Mewn neges sydd wedi ei rannu gyda thrigolion lleol, mae’r cwmni adeiladu ‘Gareth Morris Construction’ yn dweud y bydd rhaid iddynt weithio dros y penwythnos – 30 Ebrill i 2 Mai – er mwyn ail-wynebu’r ffordd sy’n rhedeg at y tai newydd, heibio’r ganolfan feddygol.

Maent yn nodi y bydd y gwaith yn cynnwys tyllu’r ffordd sy’n rhedeg i swyddfa’r cadetiaid ac ar y gyffordd i safle’r datblygiad ‘Llety’r Adar’.

Bydd y gwaith “yn cynnwys tyllu y ffordd i ddyfnder ac ail greu y sylfaen i’r ffordd newydd” meddai’r neges i drigolion yr ardal.

Wrth nodi y gall achosi anghyfleuster dros-dro, maent yn dweud mai dyma’r “unig opsiwn” ac y byddant yn gwneud eu gorau “i greu cyn lleied o anhawster i bawb.”

Yn dilyn gwaith dros y penwythnos, disgwylir “mwy o gerbydau ac anhawster yn yr wythnos sydd i ddilyn gan fyddan yn gosod tarmac i gwblhau y ffordd.”

Mae’r datblygwyr yn gorffen trwy ddiolch am gydweithrediad ac amynedd trigolion lleol yn ystod y gwaith.