Galwadau ffug – cyngor i gleifion

Canolfan Feddygol yr Hen Orsaf yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o alwadau amheus

Carwyn
gan Carwyn

Mae meddygfa Bethesda wedi annog trigolion yr ardal i rannu neges i annog pobl i fod yn wyliadwrus o alwadau ffôn amheus.

Mae’n debyg fod un o gleifion y ganolfan feddygol wedi derbyn galwad o’r fath yn honni i fod gan y gwasanaeth iechyd.

Mewn neges ar eu tudalen Facebook ddydd Mercher, maent yn dweud:

“Claf wedi derbyn galwad ffôn sgâm yn gynharach y prynhawn yma gan dwyllwr yn ceisio cael ei fanylion banc er mwyn cludo meddyginiaeth GIG i’w gartref.

“Yn ôl pob sôn, bu achosion tebyg yn ardal Pen Llyn yn ddiweddar.

“Os gwelwch yn dda, byddwch yn wyliadwrus.”