Mis i fwynhau arddangosfa Gareth Griffith yn Storiel

Cofiwch am arddangosfa “Ystafell Artist” gan yr arlunydd o Fynydd Llandygai

Carwyn
gan Carwyn
gareth-griffith-1-1

Gareth Griffith yn yr arddangosfa yn Storiel

gareth-griffith-2

Cyfres y crys blewog

Os nad ydych chi wedi cael cyfle eto i daro draw i Storiel, cofiwch fod gennych tan ddiwedd Rhagfyr i fwynhau arddangosfa gan yr artist Gareth Griffith o Fynydd Llandygai.

Mae’r arddangosfa ‘Ystafell Artist’ yn un o ddwy sy’n dwyn ynghyd elfennau Cymreig, Jamaican a diwylliannau eraill gyda gwaith Audrey West hefyd i’w weld yn yr oriel ym Mangor tan 31 Rhagfyr.

Mae gan Audrey a Gareth gysylltiad cryf gyda Jamaica. Ganwyd Audrey yno a daeth i’r DU yn 1962 fel rhan o’r ‘Genhedlaeth Windrush’ a bu Gareth yn dysgu celf yn Jamaica yn y 1970au.

Profiadau personol

Yn yr arddangosfa, mae Gareth, sy’n enillydd ar y cyd Gwobr Paentio BEEP eleni, yn treiddio i waith diweddar o’r stiwdio a’r ymarfer o archwilio parhaus; o’r gofod mewnol ac allanol a dathliad o’r broses artistig.

“Mae hyn am fy mywyd a’m profiad. Beth sydd wedi digwydd i mi. Beth yw fy mhrofiad. Beth arall sydd yna? Ceisiaf wneud i bethau weithio. Mae hefyd yn fater o dalu teyrnged,” meddai.

“Mae addasu i’r amgylchiadau rydym ynddi yn ymweld mwy perthnasol nawr nag erioed yn fy mywyd. Mae naratif yn rhedeg drwy fy ngwaith y gall ond a bod yn eiddof i mi.

“Yn anochel mae cyfeiriadau gwleidyddol; i fy amser yn Jamaica a fy mhrofiad o fyw mewn gwlad ôl gyfnod gwladychol oedd yn ymddangos o’r newydd, yn dra rhanedig, yn aml beryglus; i’r sefyllfa gyfredol sydd yn effeithio ein bywydau ni oll.”

Pwysigrwydd y stiwdio

Mae’r arddangosfa hefyd yn rhoi cyfle i ddysgu mwy am sut mae Gareth yn mynd ati i greu. Mae’r gyfres Crys Blewog a enillodd wobr BEEP yn gynharach eleni yn canolbwyntio ar grys y derbyniodd Gareth gan ei fab.

Wedi ei olchi drwy ddamwain gyda blanced y ci, daeth y crys o’r golch yn ‘flewog’. Yna, bu’n hongian yn stiwdio Gareth lle daeth yn wrthrych a dynnodd sylw a sbarduno’r gwaith.

“Yr hyn ddaw yn amlwg i mi o’r gyfres yw pwysigrwydd y stiwdio,” meddai Neil Lebeter, Uwch Guradydd Celf Fodern a Chyfoes yn Amgueddfa Cymru.

“Wedi iddo ymddeol o ddysgu, adeiladodd Gareth stiwdio newydd tu ôl i’w dŷ ym Mynydd Llandygai.

“Nid cyd-ddigwyddiad yw ei fod ers hynny wedi treulio’r degawd diwethaf yn creu peth o waith gorau ei yrfa.

“Creu’r gofod hwnnw a’r berthynas barhaus rhwng yr artist a’r amgylchedd, a’r ymchwiliad parhaus o’r broses, o ofod mewnol ac allanol, dyma sydd yn ganolog i bopeth yng ngwaith Gareth.”

Storiel

Mae’r arddangosfa ar agor yn Storiel, Bangor tan ddiwedd y flwyddyn.

Mae Storiel ar agor dydd Mawrth i Sadwrn, 11am – 5pm.