Eich Siop Fach Leol Bwydydd Cyflawn ym Methesda

Ers i’r Siop Bwydydd Cyflawn symud i’r Stryd Fawr mae cymaint o bobl leol yn ei chefnogi

gan Mary Gillie

Ers i’r Siop Bwydydd Cyflawn agor ar Stryd Fawr Bethesda, ryda ni’n falch fod cymaint o bobl leol yn ein cefnogi.

Dros gyfnod Covid mi roedd rhaid i ni drefnu gwasanaeth dosbarthu. Erbyn hyn mae’n bleser i weld pobl wyneb yn wyneb a threulio amser yn sgwrsio yn y siop – yn ogystal â gwerthu bwyd da!

Pecynnau di-blastig

Rydym yn gweithio’n galed i leihau deunyddiau pecynnu ac yn defnyddio deunydd di-blastig lle mae pecynnu yn anorfod. Ryda ni wedi ymestyn maint y siop a rŵan gallwch ddod a’ch cynhwysyddion eich hun i ail-lenwi efo cynhyrchion glanhau, siampŵ, olew, tahini, a mwy. I gefnogi pobl dros y byd rydym yn darparu eitemau masnach deg, ac yn ogystal, mae gennym gynhwysion ddi-glwten. I warchod yr amgylchedd mae gennym ni ddewis da o fwydydd organig.

D’wedodd y Parchedig Sara Roberts: “Dw i wedi byw ym Methesda ers blwyddyn rŵan. Pan gyrhaeddais roeddwn yn falch iawn i weld bod siop Bwydydd Cyflawn Bethesda yma, oherwydd rwy’n gwerthfawrogi medru prynu amrywiaeth o bethau heb bacedi plastig ayb a hefyd medru ail-lenwi pethau fel hylif golchi llestri heb orfod mynd yn bell iawn.  Hoffwn annog pawb i ddod i weld beth sydd ar gael yn y siop fach leol, wych yma.”

Cadw prisiau yn is

Gwirfoddolwyr sy’n trefnu popeth, ac mae hyn yn ein helpu i gadw prisiau yn is. Rydym eisiau cefnogi pobl a’r economi yn lleol ac mae’n bresenoldeb ar y Stryd Fawr yn helpu i ddenu mwy o siopwyr yma i gefnogi busnesau eraill y Stryd Fawr. Rydym yn falch iawn bod mwy na mil bobl leol yn rhan o’n grŵp Facebook.  Mae’n bosib archebu rhai o’n cynhyrchion ar Gadwyn Ogwen ac rydym eisiau bod yn rhan o’r Hwb Bwyd newydd.

Cam wrth gam, rydym yn creu labeli dwyieithog ar gyfer y silffoedd. Mae llawer o’n gwirfoddolwyr yn Gymry Cymraeg, ac eraill wrthi’n dysgu Cymraeg ac yn falch o’r cyfle i ymarfer wrth weithio yn y siop.

Rydym yn cadw 10% o’n helw i gefnogi’r gymdeithas a grwpiau yn lleol.  E-bostiwch bethesdawholefoods1@gmail.com am fwy o wybodaeth.

Gwirfoddolwyr

Dyma rai o’n gwirfoddolwyr:

Mary Gillie ydw i.  Dwi’n dw’n byw yn Rachub ers 5 mlynedd. Falla ‘dach chi wedi ‘ngweld i’n rhedeg ar y mynyddoedd efo Roy y ci. Weithiau dw i’n helpu yn y siop ond y rhan fwyaf, dwi’n gwneud pethau y tu ôl i’r llenni. Dwi’n cadw’r cyfrifon, rhannu newyddion am beth sy’n newydd yn y siop ac ati.

Renee Taylor ydw i.  Dw i’n wreiddiol o Texas. Nes i symud i Bethesda 23 blwyddyn yn ôl a magu dau fab, Joe ac Evan yn y pentre.  Roeddwn i’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor cyn i mi ymddeol yn 2018. Rŵan weithiau dw i’n gweithio fel gweinydd angladd a dw i’n gwirfoddoli yn y Siop ac efo Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Stephen Hughes ydw i. Dwi’n gwirfoddoli yn y siop a dw i’n edrych ar ôl yr archebion a’r cyfrif banc. Mae gen i lawer o ddiddordebau sy’n fy nghadw’n brysur – gan gynnwys fy wyrion.

Fy enw i yw Gabe Wyn ac dwy’n byw ym Mynydd Llandegai. Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau gwirfoddoli yn y siop. Dwi wir yn mwynhau!

Enid Roberts ydw i. Dwi’n gwirfoddoli drwy weithio ambell sesiwn yn y siop, cyfieithu, ac mi rydw i am gychwyn mesur cynhwysion a’u rhoi mewn bagiau ar gyfer eu gwerthu. Fy hoff eitem ydi’r uwd bras sy’n mynd yn dda efo’r sinamon.

Jo ydw i. Cyn ymddeol yn gynnar oherwydd problemau orthopedig, roeddwn yn seicolegydd ac wedyn roeddwn yn nyrs yn Ysbyty Gwynedd. Dwi’n caru cŵn, bwyd, beiciau, Pilates ac Eryri.

Sara Roberts ydw i, dw i wedi byw ym Methesda ers blwyddyn rŵan. Dechreuais wirfoddoli yn ddiweddar oherwydd roeddwn yn awyddus i gyfrannu a helpu allan ac rwy’n mwynhau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned yma. Mae hi wedi bod yn hwyl ac rwyf wedi cwrdd â mwy o bobl ddiddorol sydd hefyd yn ceisio lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd trwy ddefnyddio siop fel Bwydydd Cyflawn Bethesda.

Beth am ymuno?

Os hoffech chi ymuno a’n tîm cyfeillgar i wneud cymaint neu cyn lleied a dach chi eisiau, yn y siop neu du ôl i’r llenni, e-bostiwch bethesdawholefoods1@gmail.com neu galwch heibio am sgwrs.