Diwrnod Rhyngwladol y Merched: Gwaed newydd i Ddyffryn Ogwen

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, a pha well diwrnod i ddathlu ein merched lleol?

Mae Etholiadau Cyngor Gwynedd ar y gorwel, ac mae’r Aelod o’r Senedd lleol wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy groesawu’n ffurfiol 7 o ferched lleol fydd yn sefyll am y tro cyntaf fis Mai.

Ymhlith y 7 mae ymgeiswyr Tregarth a Mynydd Llandygai, Beca Roberts, ac ymgeisydd ward Gerlan, Einir Wyn Williams.

Yn ôl Siân Gwenllian AS:

“Yn Etholiadau Cyngor Gwynedd yn 2017, roedd cynnydd o 18% yn y ganran o ddynion 45-65 oed a etholwyd.

“Ledled Cymru, dim ond 29% o gynghorwyr sy’n fenywod.

“Ond, wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae lle i fod yn bositif.

“Fe redon ni ymgyrch bwrpasol wedi’i thargedu’n lleol, gyda’r gobaith o ethol mwy o ferched ym mis Mai, ac mae’n bleser gen i groesawu 7 o ymgeiswyr benywaidd deinamig mewn seddi allweddol.

“Maen nhw’n ferched sy’n perthyn i’w bröydd lleol, ac yn weithgar yn eu hardaloedd.”

Mae Einir Williams, sy’n sefyll dros ward Gerlan yn Llywodraethwr ar Ysgolion Penybryn ac Abercaseg, ac mae’n eistedd ar bwyllgorau Cylch Meithrin Cefnfaes, Neuadd Ogwen, Bwrlwm Haf, a Yes Cymru Bethesda. Mae hefyd yn Gynghorydd Cymuned ym Methesda.

Beca Roberts yw ymgeisydd Tregarth a Mynydd Llandygai. Mae wedi gweithio gyda Phartneriaeth Ogwen, ac yn ôl Beca mae’n “frwd iawn dros weithredu cymunedol a phrosiectau ynni cymunedol yng Ngwynedd.”

I ddysgu mwy am Einir, cliciwch yma, ac i ddysgu mwy am Beca, dilynwch y ddolen hon.