Disgyblion Llanllechid yn gwneud eu rhan!

Casglwyd 695kg o ddillad

Ar Goedd
gan Ar Goedd
Ysgol-Llanllechid-Rhagfyr-2021

Casgliad yn Ysgol Llanllechid

Mae Warws Werdd Antur Waunfawr yn cynnig cynllun am ddim i ysgolion lleol, grwpiau chwarae, grwpiau cymunedol ac elusennau er mwyn codi pres.

Mae’r Warws Werdd yng Nghaernarfon yn rhan o deulu o fusnesau Antur Waunfawr, ac yn gwerthu dodrefn a dillad ail-law.

Ysgol Llanllechid oedd un o leoliadau diweddaraf y casgliadau, a hynny ym mis Rhagfyr. Daeth disgyblion, rhieni, staff a’r gymuned leol â bagiau llawn o ddillad i godi pres at yr Ysgol. Roedd yn fore prysur ac fe gasglwyd 695kg o ddillad, esgidiau, dillad gwely a chyrtans.

I ddysgu mwy am y gwasanaeth, mae croeso ichi gysylltu â swyddfa@anturwaunfawr.cymru neu  ffoniwch (01286) 674155.