Dathlu 50 mlynedd o aelodaeth

Chwech o aelodau Côr y Penrhyn wedi cwblhau 50 mlynedd o aelodaeth yn y côr

gan Côr y Penrhyn

Cafodd Côr y Penrhyn noson arbennig iawn yng Nghlwb Rygbi Bethesda nos Lun dwythaf, 9fed o Fai, pan gyflwynwyd tlysau o lechen Chwarel y Penrhyn wedi eu ysgrythu gyda penillion wedi eu hysgrifennu gan dri bardd lleol i chwech o’r aelodau.

Mae bod pob un o’r chwech wedi bod yn aelodau o Gôr y Penrhyn ers dros 50 mlynedd.

Yr aelodau yw Gwyn Burgess, Dafydd Evans, Elfed Bullock, Gareth Hughes, Arwel Owen a Walter Williams, aelodau ffyddlon iawn i’r côr

Yn ogystal â chyflwyno’r aelodau arbennig yma, fe gyflwynwyd siec o £3318 i ymchwil cancr h prostad.