Cymorth posib i sêr chwaraeon Dyffryn Ogwen

Elusen ‘Cofio Robin’ yn cynnig help llaw

Carwyn
gan Carwyn

Ydach chi’n rhagori mewn chwaraeon neu’n nabod rhywun sy’n anelu yn uchel mewn unrhyw gamp? Os felly efallai y gall elusen “Cofio Robin” fod o gymorth.

Mae’r elusen yn cynnig cymorth ariannol i unigolion o Wynedd a Chonwy o dan 25 oed sydd wedi gwneud eu marc ym myd chwaraeon ac yn anelu yn uwch.

Ers sefydlu’r elusen bedair blynedd yn ôl, mae dros £50,000 wedi ei gyfrannu i hyrwyddo chwaraeon, gyda’n agos i 60 o unigolion wedi eu cefnogi mewn ystod o chwaraeon: dringo a sgïo, nofio a chodi pwysau, pysgota a marchogaeth.

Ewch i’r wefan i weld mwy am yr elusen a pwy sydd wedi cael nawdd yn y gorffennol. Yno hefyd cewch gopi o’r ffurflen gais – bydd angen eu cyflwyno i Ymddiriedolaeth erbyn y dydd olaf o Fedi.