Cwestiwn: Beth sy’n cysylltu asynnod, dreigiau a moch yn Nyffryn Ogwen?

Ateb: Mae Elusen Ogwen wedi ariannu prosiectau cysylltiedig â’r anifeiliaid yma i gyd yn 2022

Elusen Ogwen
gan Elusen Ogwen

Mae Elusen Ogwen wedi bod yn brysur yn 2022 yn ariannu nifer o brosiectau yn Nyffryn Ogwen.

Yn y gwanwyn derbyniodd mudiad Asynnod Eryri gyllid i osod paneli solar yn eu swyddfa ym Moelyci; yn yr haf rhoddwyd cyllid i wella adnoddau ym Mharc Moch er mwyn cynnal digwyddiadau awyr agored yno; ac yna yn yr hydref derbyniodd Dreigiau’r Dyffryn grant i osod goleuadau LED yn y gampfa yng Nghoed y Parc.

Rydym hefyd wedi rhoi cefnogaeth i brosiect Gwisgoedd Ysgol Petha sydd wedi dosbarthu 76 o wisgoedd ysgol i blant y Dyffryn gan arbed tua 750kg o garbon wrth wneud hynny, ac mae Cylch Meithrin Tregarth wedi prynu adnoddau a dodrefn newydd i’r ardd yno fel y bo’r plant yn gallu treulio rhagor o amser yn dysgu yn yr awyr agored. Edrychwch ar dudalennau’r Elusen i gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau  yr ydym wedi’u cefnogi hyd yma.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Ynni Ogwen am ddarparu cyllid i Elusen Ogwen sy’n ein galluogi i gefnogi’r prosiectau hyn ers sefydlu’r Elusen yn 2021. Yn hydref eleni roeddem yn ddiolchgar o dderbyn rhodd ychwanegol gan Agency Giving Fund NFU Mutual a hynny drwy law Swyddfa NFU Mutual Caernarfon a Phwllheli.

Yn wyneb y cynnydd mewn costau byw a chostau tanwydd roedd Elusen Ogwen yn falch o allu cefnogi prosiect diweddar Partneriaeth Ogwen ar y cyd â Phrosiect SeroNet Gwynedd. Maent wrthi’n brysur ar hyn o bryd yn rhannu pecyn arbed ynni sy’n cynnwys nwyddau a gwybodaeth ar leihau costau tanwydd a gwresogi cartrefi. Mae’r pecynnau yn cael eu rhannu i bobl plentyn ysgol yn y Dyffryn, a gyda’r gefnogaeth ychwanegol gan NFU Mutual bydd pecynnau ychwanegol ar gael i drigolion yr ardal mewn digwyddiadau cymunedol dros y misoedd anodd nesaf.

Er ein bod yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiectau uchod yn 2022 mae Elusen Ogwen yn daer eisiau i ragor o grwpiau cymunedol ymgeisio am grantiau gennym i wella ansawdd bywyd pobl Dyffryn Ogwen yn 2023. Mae gennym ffurflen gais ar gyfer prosiectau bach gwerth hyd at £750 a ffurflen gais ar gyfer prosiectau mwy hyd at £3,000 sy’n cyfrannu at gyflawni un neu ragor o’r amcanion canlynol:

  • Lleihau tlodi tanwydd
  • Datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy
  • Hybu trafnidiaeth gynaliadwy a theithio actif
  • Arbed ynni
  • Cysylltu unigolion o bob oed â’r amgylchedd
  • Lleihau gwastraff
  • Annog unigolion i wirfoddoli mewn prosiectau amgylcheddol yn eu cymunedau
  • Gwella ansawdd yr amgylchedd lleol
  • Cynyddu cynhyrchu / prynu cynnyrch bwyd lleol

Mae’r canllawiau a’r ffurflenni cais ar gael yma. Mae gan grwpiau cymunedol yr ardal tan ddiwedd mis Rhagfyr 2022 i gyflwyno eu ceisiadau, ond da chi cysylltwch efo ni drwy anfon neges at elusenogwen@gmail.com os hoffech sgwrs yn gyntaf.