Cais i Josh yn ei gêm broffesiynol gyntaf

Cyn-chwaraewr ieuenctid gyda Bethesda yn chwarae i dîm rygbi’r gynghrair Warrington

Carwyn
gan Carwyn
D754EC16-0CD5-45EF-8AAA

Llun Dylan Davies

Er mai colli o drwch blewyn oedd hanes tîm y Warrington Wolves heddiw, roedd hi’n brynhawn i’w chofio i Josh Lynch.

Wedi chwarae i dimau ieuenctid Clwb Rygbi Bethesda fe arwyddodd Josh i dîm y “Wire” yn 2020.

Roedd o’n dechrau ei gêm broffesiynol gyntaf i dîm cyntaf Warrington heddiw yn Uwch-Gynghrair y “Super League”.

Ac er mai colli mewn gêm glos o 38 i 36 wnaeth y tîm yn erbyn Huddersfield, fe sgoriodd Josh Lynch gais i goroni diwrnod arbennig.

Llongyfarchiadau mawr iddo a braf gweld fod y dechrau gafodd o lawr ar gaeau Dol Ddafydd wedi talu iddo. Pob lwc am weddill y tymor!