Bethesda’n croesawu Gŵyl Ryngwladol Meistri Rygbi’r Gynghrair

Mae Cymru wedi enwi carfan o 19 ar gyfer y gemau yng Nghlwb Rygbi Bethesda ar ddydd Sadwrn, 14 Mai

Carwyn
gan Carwyn

Bydd timau rhyngwladol Cymru, Iwerddon a Lloegr yn anelu am gaeau rygbi Bethesda y penwythnos nesaf wrth i Dôl Ddafydd groesawu Gŵyl Meistri Rygbi’r Gynghrair.

Mae gemau meistri yn cael eu chwarae gan bobl 35 oed a throsodd. Mae disgwyl digon o chwarae da, ond yn bwysicaf oll mae ysbryd y gêm. Y rheol bwysicaf yn ôl y trefnwyr ydi fod “rhaid i bawb brynu diod i’r rhif cyferbyniol!”

Mae carfan Cymru wedi’i dewis o blith chwaraewyr sydd ar hyn o bryd yn chwarae i glybiau Rygbi’r Gynghrair Meistri o glwb Dreigiau Gleision Caerdydd a Buccaneers Gogledd Cymru.

Dywedodd chwaraewr-hyfforddwr Meistri Cymru, Chris Thomas: “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi carfan Meistri Cymru gyntaf erioed. Dyma gyfle gwych i’r chwaraewyr greu hanes.

“Roedd ein dewis tîm yn seiliedig yn bennaf ar gyfraniad y chwaraewyr i Masters Rugby League. Roedd yn ddewis anodd o ran pwy i’w ddewis ac i ni beidio â hysbysebu am dreialon y tro hwn, ond fe benderfynon ni wobrwyo chwaraewyr am eu hymrwymiad i’w clybiau a’u hyfforddiant, yn ogystal â pha mor dda y gwnaethon nhw chwarae’r tymor diwethaf.

“Mae gennym ni ddyfodol gwych i Masters Rugby League yng Nghymru. Rydyn ni’n gobeithio herio Awstralia yn ddiweddarach eleni os gallwn ni, a bydd yna Gwpan Meistr y Byd y flwyddyn nesaf. Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn.”

Os ydych chi eisiau chwarae Rygbi’r Gynghrair Meistri, anfonwch e-bost at masters@rugbyleague.wales yn nodi eich lleoliad am ragor o wybodaeth am eich clwb lleol.

SGWAD CYMRU: Gareth Evans (Arlecdon Rams), Wayne Bridges (Blackpool), Idris Evans, Shaun Gustard, Alf Harvey, Jamie Iles, Darren Newman, Chris Stiles, Chris Thomas, Martyn Williams (holl Dreigiau Gleision Caerdydd), Rob Ashworth, Dave Burns, David Gray, Jay Harding, Andrew Jacobson, Christian Rich, Ryan Roberts, Lee Woodworth (holl Buccaneers Gogledd Cymru).