
Llun Elin Rhys

Llun Byw’n Iach

Llun Byw’n Iach

Llun Ysgol Llanllechid

Llun Elin Rhys

Llun Ysgol Penybryn

Llun Ysgol Penybryn

Llun Ysgol Penybryn
Pwy welodd baton Gemau’r Gymanwlad ar ei hymweliad â Bethesda heddiw?
Gyda Gemau’r Gymanwlad gwta fis i ffwrdd, cafodd rhai o ddisgyblion Dyffryn Ogwen gyfle i gludo baton y gemau heddiw.
 heddiw yn ddiwrnod cyntaf taith y baton trwy Gymru, Bethesda oedd cyrchfan amser cinio.
Cafodd rhai o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen gyfle i gludo, ac aeth hefyd draw i Ganolfan Plas Ffrancon am sbel.
Cludodd disgyblion Ysgol Llanllechid y baton ar hyd Lôn Bach Odro, a chafodd plant Ysgol Pen-y-bryn gyfle i weld baton hefyd.
Braf gweld Baton y Gemau fydd yn cael eu cynnal ym Mirmingham yn ymweld a hei lwc y bydd yn annog sêr ifanc yr ardal ddigon i gystadlu yng nghrys coch Cymru yn y dyfodol.
Yn wir, pob lwc i holl aelodau Tîm Cymru fydd yn cystadlu, amdani! Dyma ni yn cludo baton gemau’r gymanwlad heddiw!