Bafta i gyn-ddisgybl Ysgol Dyffryn Ogwen

Dion Wyn Hughes i dderbyn gwobr am ei waith cymunedol

Carwyn
gan Carwyn
29ADAE99-78EF-4FF6-BFDD

Mae ymdrechion Dion Wyn Hughes i annog pobl ifanc i wneud y mwyaf o’r celfyddydau wedi sicrhau gwobr “For the Love of Film”.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Dion y bydd yn mynychu gwobrau’r Bafta’s y penwythnos yma i dderbyn ei wobr.

Mae Dion yn gwneud gwaith gwirfoddol gyda llu o sefydliadau yn yr ardal gan rannu ei frwdfrydedd dros ffilm.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Dion wedi cyflynu cynllun ‘Ffilm Ifanc’. Mae’r fenter yn ceisio annog pobl ifanc 18-24 oed i ymwneud â’r diwydiant ffilmiau, gan gynnig hyfforddiant gan arbenigwyr.