Awydd tyfu Clwb Cyfeillion Llais Ogwan

Beth am ymuno i gefnogi’r papur bro

Carwyn
gan Carwyn

Ar ddechrau 2022, mae Clwb Cyfeillion Llais Ogwan yn awyddus i ddenu aelodau newydd.

Mae’r clwb yn weithredol ers rhyw 33 mlynedd bellach, gan lwyddo i estyn cefnogaeth
ariannol sylweddol i bapur bro Llais Ogwan.

Aelodau newydd

Wrth apelio am gefnogwyr newydd, mae Neville Hughes, Trysorydd Clwb Cyfeillion Llais Ogwan yn dweud:

“Yn anffodus mae nifer yr aelodaeth wedi gostwng ers i ni ail-lawnsio’r Clwb yn 2008.

“Bryd hynny cododd nifer yr aelodau i 193 ond bellach, am wahanol resymau (yn cynnwys marwolaethau ac aelodau’n symud o’r ardal) 127 aelod sydd gennym ar y llyfrau.

“Tybed fyddech chi yn barod i lenwi rhywfaint at y bwlch drwy ymaelodi a’r Clwb?”

Tâl aelodaeth yw £12 y flwyddyn, ac mae hanner yr incwm yn mynd allan yn wobrau i’r aelodau, a’r hanner arall yn mynd at gefnogi Llais Ogwan.

Wrth apelio am gefnogaeth, mae darpar-aelodau newydd yn cael eu hannog i dalu drwy’r banc os yn bosib gan fod hynny yn hwylus iawn. Ond mae taliadau siec neu arian yn dderbyniol os mai dyna sydd orau i aelodau.

Os am ymuno, cysylltwch â Neville Hughes ar 01248 600853.