Awydd gwerthu cynnyrch trwy Hwb Cadwyn Ogwen?

Gwnewch gais i ymuno Academi Bwyd a Diod Dyffryn Ogwen

Carwyn
gan Carwyn
Academi-Bwyd-a-Diod-Dyffryn-Ogwen-1

Ydych chi’n byw yn Nyffryn Ogwen ac awydd cynhyrchu bwyd neu ddiod i’w werthu trwy Hwb Cadwyn Ogwen?

Academi Bwyd a Diod

Os felly, beth am ymgeisio i fod yn rhan o Academi Bwyd a Diod y Dyffryn?

Bydd hyd at bump o gynhyrchwyr yn derbyn cefnogaeth trwy gyfres o weithdai o fis Medi tan fis Tachwedd eleni, gyda syniad mwyaf addawol yn derbyn cyfraniad o £500 tuag at eu busnes.

Sut i fynd amdani?

Os ydych am ymgeisio, bydd angen cyflwyno ffurflen gais erbyn 10 Medi. Mae’r ffurflen ar gael i’w llenwi yma.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â meinir@lafan.cymru neu 01248 665 624.