Atgyfodi – sengl newydd Dafydd Hedd yn taro nodyn gobeithiol

Mae’r cerddor lleol wedi arwyddo gyda label ‘Bryn Rock’ ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod

Carwyn
gan Carwyn
269834702_498802294864995
271054064_635374424169266

Ar ddechrau’r flwyddyn, mae sengl newydd Dafydd Hedd yn ein hannog i fynd amdani a pheidio “bod ofn gwneud be’ ti isio”.

‘Atgyfodi’

Dyna neges y cerddor talentog lleol wrth iddo drafod ei sengl newydd ‘Atgyfodi’ a fydd yn cael ei rhyddhau ar 14 Ionawr.

“Mae’r gân yn fwy hapus ella na rhai pethau dwi wedi rhyddhau yn y gorffennol, mae’n sôn am gael dros amser anodd,” meddai Dafydd.

“Dwi’n gobeithio fod o’n rhywbeth fydd yn gwneud i bobl wenu, ac ella dawnsio.”

Electronig

Fel mae o wedi bod ers iddo ddechrau cyfansoddi pan yn 11 oed, mae Dafydd wedi bod wrthi yn creu’r gân ei hun, gan ddefnyddio ei sgiliau cyfrifiadurol a cherddorol.

“Mae’r sengl newydd yn fwy electronig neu ’dance-pop’ – ond dwi meddwl fod hynny’n dilyn ymlaen o’r recordia diwetha’.

“Er bod o’n fwy o gân dawns, mae yna neges glir yn y geiria’ dwi’n meddwl, sef peidio bod ofn gwneud be’ ti isio.”

‘Deud ia mwy’

Os ydych chi wedi gweld y rhagflas o’r sengl ‘Atgyfodi’ ar y cyfryngau cymdeithasol, fe welwch fod yna olwyn fawr liwgar yn amlwg yn y gwaith celf sy’n cyd-fynd efo’r gân.

“Mae’r gelf sydd ar y sengl yn dod o drip nes i i Helsinki ychydig yn ôl.

“Ro’n i wastad wedi bod eisiau mynd i Ffindir, gan fod gen i ddiddordeb yn y wlad a’r wleidyddiaeth yn Sgandinafia yn gyffredinol.

“Felly nes i benderfynu jest mynd amdani. Fel y syniad yna o ddeud ia mwy, weithia mae rhaid i chdi fynd amdani does?

“Odd pobl wedi synnu braidd mod i’n mynd yn berson ifanc 18 oed ar ben fy hun i wlad arall, ond roedd o’n wych.

“Er bod y tywydd ddim yn grêt pan oeddwn i yno, roedd o’n brofiad gwych, a nes i weld y ‘ferris wheel’ yma yn disgleirio efo’r gola’ arni. O’n i’n gwenu fatha giât.

“Gobeithio fod y gân yma yn debyg a bod pobl yn gallu ymfalchïo yn y peth disglair a mwynhau.”

Edrych ymlaen

Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae Dafydd Hedd hefyd wedi arwyddo gyda label gerddoriaeth Gymreig.

“Mae’n deimlad da, a dwi’n edrych ymlaen at be’ sydd i ddod efo label Bryn Rock a chydweithio efo Jacob a Morgan Elwy.

“Yn y gorffennol, doedd fy ngherddoriaeth i ddim wir yn cael ei farchnata ar gyfer marchnad Cymru gan fod fy ngherddoriaeth yn cael ei ryddhau trwy gwmni Americanaidd.

“Ond rŵan, dwi’n meddwl y bydd pobl yn gallu cael mynediad at fy ngherddoriaeth newydd i a hefyd y stwff dwi wedi ei ryddhau yn barod.

“Mater o ddisgwyl rŵan i weld be’ fydd ymateb pobl i’r sengl newydd, a gobeithio bydd pobl yn mwynhau.

“Mae yna gwpl o senglau newydd i ddod hefyd, felly dwi’n edrych ymlaen a gobeithio gallu perfformio efo pobl eraill yn 2022.”

Bydd sengl newydd Dafydd Hedd, ‘Atgyfodi’ ar gael o 14 Ionawr. Am y diweddaraf, dilynwch Dafydd ar Instagram Facebook  Twitter