Annog synnwyr cyffredin wrth barcio

Traffig Cymru yn rhoi cais i fodurwyr ddilyn y rheolau ger Llyn Ogwen

Carwyn
gan Carwyn

Mae Asiantaeth Cefnffyrdd y gogledd yn annog unrhyw un sy’n bwriadu parcio ger Llyn Ogwen i feddwl yn ofalus ac i gadw at y rheolau.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, gwelwyd achosion niferus o barcio anghyfrifol ger ffin Gwynedd a Chonwy ar yr A5 wrth i rai pobl sy’n cerdded a mynydda yn yr ardal adael eu ceir mewn lleoliadau peryglus.

Wrth i’r Pasg agosáu a’r disgwyl am fwy o bobl fod yn mynd draw i wneud y mwyaf o’r amgylchedd arbennig, mae rhybudd clir wedi ei roi heddiw.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd cyfrif Traffig Cymru’r gogledd:

“Rydym wedi rhoi arwyddion, conau a therfyn cyflymder 40mya ar yr #A5 Ogwen i helpu ddiogelu holl ddefnyddwyr y ffordd. Os ydych yn ymweld plîs parciwch yn unol â rheolau’r ffordd fawr”

Mae lluniau hefyd yn dangos rhybuddion gan yr heddlu sy’n dangos nad oes yna barcio o gwbl ar rannau penodol o’r ffordd. Gair i gall felly i unrhyw un sy’n bwriadu mwynhau’r awyr agored!