Ail-Agor Llys Dafydd

Defnydd cymunedol i’r safle ym Methesda – ewch draw am baned a sgwrs

Carwyn
gan Carwyn

Wedi seibiant dros y misoedd diwethaf mae Cyngor Cymuned Bethesda a Phartneriaeth Ogwen yn falch o gyhoeddi fod Llys Dafydd yn ail-agor ddydd Mawrth ar gyfer defnydd cymunedol.

Mae gwaith atgyweirio wedi’i wneud ar wal gefn y lleoliad ac mae bellach ar gael unwaith eto fel man ar gyfer gweithgareddau cymunedol, garddio, cyngherddau ac ati.

I ddathlu ail-agor y Llys bydd panad a sgwrs draw yno bnawn Mawrth, 6 Rhagfyr o 3 tan 5 y pnawn.

Beth am fynd draw i rannu’ch syniadau a chael trafod posibiliadau ar gyfer defnydd i’r dyfodol.