Aelod newydd i’r Dyffryn Gwyrdd

Penodi Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant

gan Huw Davies

Ar drothwy cyfnod prysur iawn o weithgarwch, mae prosiect y Dyffryn Gwyrdd wedi penodi Anna Sethi ar gyfer rôl bwysig Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant.

Wedi gweithio’n y gorffenol fel ‘Cyfaill Cymunedol’ mae Anna’n wyneb cyfarwydd i drigolion Dyffryn Ogwen ac wedi cael cryn hwyl wrth gefnogi unogolion a chynorthwyo i ail-sefydlu prynhawniau coffi llwyddianus ‘Criw Cefnfaes’.

Bydd Anna’n bwrw ati i weithio gydag unigolion, cyrff a chymdeithasau lleol er mwyn cefnogi’n gilydd ar draws amrywiol themau’r Dyffryn Gwyrdd – trafnidiaeth werdd, llesiant, bwyd a thyfu, taclo tlodi ac unigedd.

Meddai Huw Davies, Rheolwr y Dyffryn Gwyrdd: “Mae’n hyfryd cael croesawu Anna’n ôl atom.

“Ryda ni’n gwybod ei bod hi’n awyddus iawn i gyfrannu at lesiant ein cymunedau a gan bod ganddi adnabyddiaeth dda o’r ardal a’i thrigolion, ryda ni’n siwr y bydd hi’n cael cryn hwyl ar ddenu gwiroddolwyr a gweithio gyda aelodau eraill y tim wrth drefnu a chynnal gweithgareddau llesiant.”

Os rydych eisiau dysgu mwy am waith y Dyffryn Gwyrdd cysylltwch efo Anna Sethi – anna@ogwen.org