Ysgoloriaeth pensaernïaeth i Iolo

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Norman Foster yng Ngholeg Prifysgol Llundain i’r myfyriwr

Carwyn
gan Carwyn
Iolo1

Mae gŵr ifanc lleol wedi sicrhau ysgoloriaeth o fri ar gyfer Gradd BSc mewn Pensaernïaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL).

Bydd Iolo Llwyd yn derbyn ariannu llawn am ei ffioedd academaidd. Mae’r ysgoloriaeth, a grëwyd drwy Sefydliad Norman Foster, yn anelu at sicrhau fod y myfyrwyr mwyaf addawol yn derbyn y cyfleoedd gorau posib i fynd i mewn i’r proffesiwn o bensaernïaeth.

“Sioc”

“Cefais sioc mawr o fod wedi fy newis fel derbynnydd yr ysgoloriaeth,” meddai Iolo.

“Roedd y broses ymgeisio yn ddwys ac yn bleserus. Roedd cael y cyfle i gyflwyno fy ngwaith i diwtoriaid dylunio a chyfarwyddwyr ysgol UCL, ymddiriedolwyr y sefydliad a Farshid Moussavi ei hun yn ystod cyfweliadau yn anhygoel, ac rwyf yn ffodus iawn o fod wedi cael y cyfle i wneud hynny.

“Yn ddiweddarach roedd cyfarfod Norman Foster ei hun a chael y cyfle i gyflwyno fy ngwaith iddo, ynghyd ag ysgolorion y flwyddyn flaenorol yn wych.

“Mae yna rywbeth arbennig iawn ynglŷn â gweld gwaith mewn person, mae medru codi, teimlo a chyffwrdd lluniadau, llyfrau brasluniau a modelau yn cynnig profiad gwahanol iawn – un na ellir ei ailadrodd yn dda ar-lein. Felly eto rwyf yn lwcus iawn o fod wedi cael y cyfle i wneud hyn.”

Eithriadol o falch

Mae Iolo a astudiodd Gelfyddyd Sylfaen yng Ngholeg Menai wedi talu teyrnged i’r gefnogaeth gafodd yno.

“Credaf pe na bai am y cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai fyddwn i’n sicr ddim wedi ennill yr ysgoloriaeth hon,”meddai.

“Mi wnaeth yr etheg gwaith a ddysgwyd ynghyd â’r gwaith a gynhyrchais yn ystod fy amser yno wir fy mharatoi ar gyfer y dyfodol! Ar ben hynny, roedd y cwrs yn gymaint o hwyl!”

Wrth longyfarch Iolo ar ei lwyddiant, dywedodd Owein Prendergast, Arweinydd Rhaglen Sylfaen Celf y Coleg:

“Rydym i gyd yn eithriadol o falch o Iolo – mae’n ardderchog i weld ein cyn fyfyrwyr yn rhagori!

“Mae Ysgoloriaeth Sir Norman Foster yn wobr â bri mawr iddi, roedd gan Iolo ffordd unigryw o weithio, a gweld y byd, a oedd yn amlwg pa oedd yn fyfyriwr Sylfaen, felly ni ddylem synnu’n llwyr i glywed ei fod wedi ennill y wobr hon. Dymunwn y gorau i Iolo wrth iddo barhau gyda’i astudiaethau, ac edrychwn ymlaen at ddilyn hanes ei yrfa.”