Ymchiliad Frankie Morris: Cadarnhad ffurfiol am gorff wedi ei ganfod

Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff y gŵr 18 oed gafodd ei ganfod ger Caerhun

Carwyn
gan Carwyn
Frankie-1

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai corff Frantisek “Frankie” Morris y daethpwyd o hyd iddo mewn coedlan yn ardal Caerhun ddydd Iau, 3 Mehefin.

Cafodd corff y llanc ifanc ei ganfod yn dilyn ymchwiliadau i’w ddiflaniad. Roedd Frankie wedi ei weld diwethaf ger tafarn y Faenol ym Mhentir ar ddydd Mawrth, 2 Mai.

Mewn datganiad heno, dywed yr heddlu nad ydi’r farwolaeth Frankie yn cael ei thrin fel un amheus ac mae teulu Frankie wedi gofyn i bawb barchu eu preifatrwydd ar yr adeg anodd yma. Maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol y llu.

Teulu Frankie

“Ar ran y teulu hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r chwilio am Frankie, yn enwedig y gymuned leol,” meddai Anne Morris, mam Frankie:

“Roedd Frankie yn cael ei garu’n fawr, a bydd colled enfawr ar ei ôl. Byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael preifatrwydd rŵan i alaru ar yr adeg anodd yma.”

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Owain Llewellyn. “Mae ein meddyliau yn naturiol gyda theulu Frankie.

“Roedd hwn yn ymchwiliad helaeth ac estynedig a hoffwn ddiolch i bawb wnaeth ein cynorthwyo dros y pum wythnos ddiwethaf.”