“Mae o wedi gweithio allan yn dda i fi achos dwi ’di cael cynnig llwyth o waith!”

Llŷr Alun Jones: yr hogyn o Sling a chystedlydd mwyaf dadleuol S4C erioed?!

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’n bosib iawn mai Llŷr Alun Jones o Sling yw cystadleuydd mwyaf dadleuol S4C erioed.

Daw hynny, wedi iddo bleidleisio’n dactegol ar raglen ‘Am Dro’ er mwyn ennill y wobr o £1,000.

Er ei fod wedi sbarduno ymateb tanllyd ar gyfryngau cymdeithasol wedi i’r sioe gael ei darlledu’r wythnos hon, mae’r cystadleuydd drygionus wedi bod yn manteisio ar bob cyfle posib yn sgil ei gyhoeddusrwydd newydd. 

A phan nad yw’n hollti barn y genedl, mae’n gweithio fel artist a cherddor ac yn creu cerddoriaeth gyda’i fand, Crinc.

“Mae o wedi gweithio allan yn dda i fi!”

“Mae pethau wedi bod yn grêt!” meddai, wrth dafod hynt a helynt y diwrnodau diwethaf.

“Yr unig beth sy’n bechod ydi bod fi heb allu enjoio fo hefo ffrindiau fi. Oedd o literally jest fi’n dathlu ac yn enjoio fo ar ben fy hun!”

Er mai prin oedd y dathlu, dydi hynny ddim yn wir am y llu o gynigion gwaith.

“Mae o wedi gweithio allan yn dda i fi achos dwi ’di cael cynnig llwyth o waith,” meddai, “a fyswn i’n wirion i wrthod!”

Nid yw’n syndod chwaith ei fod yn “cytuno’n llwyr” gyda’r galwadau gan rai iddo gael rhaglen deledu ei hun.

“Wedyn oni’n teimlo bod angen callio dipyn bach”

Ers graddio o Brifysgol Glyndŵr gyda gradd mewn celf gywrain, mae Llŷr Alun Jones wedi bod yn gweithio ar sawl fenter gwahannol.

“Oni dipyn bach yn ddiniwed ar ôl gorffen degree fi – oni ddim isio gweithio i neb – felly nes i benderfynu cymryd drosodd Cob Records,” meddai.

“… dwi wedi sylweddoli ers hynny bod o werth gweithio i bobl!”

Treuliodd gyfnod o amser yn trawsnewid yr adeilad a’i droi yn hwb gelfyddydol o’r enw Noddfa, cyn bod rhai cau lawr rhai misoedd yn ddiweddarach.

“Ges i flwyddyn wael wedyn ac oni ddim yn gwybod be i wneud hefo fi’n hyn… felly nes i ddechrau gwneud gigs o’ gwmpas Bangor hefo Piwb.

… sef enw unigryw ei fand ar y pryd.

“Dwi’n cofio bod mynd at Huw Stephens yng ngwobrau Y Selar a deud “Hei, Huw Stephens, diolch am chwarae Piwb – fi ’di Piwb! Ac wedyn oni’n teimlo bod angen callio dipyn bach.

“Does ’na neb isio rhoi Piwb ar gig-list nhw nag oes…!

“Oedd o’n ffyni pan oedda ni’n trefnu gigs ein hunain ond pan ti ’di gneud y gig ’na drosodd a drosodd, oedda ni’n meddwl bod o bach too much a meddwl bod ni angen cael enw bach mwy cyfleus!”

“Peidio meddwl amdano fo gormod”

Erbyn hyn, mae wedi sefydlu band newydd o’r enw Crinc ac wedi rhyddhau dwy gân sef Crachach a PCC – tra hefyd yn parhau i greu gwaith celf.

“Hefo celf nes i ddysgu i beidio bod yn precious am y gwaith,” meddai, “mae’n bwysig i beidio meddwl amdano fo gormod.

“Os dydi o ddim yn gweithio un diwrnod – dim otch – achos fedrai drïo eto’r diwrnod nesa’.

“Ac os ti’n meddwl amdano fo fel gwaith – dio’m yn hwyl chwaith – subjective ydi celf i gyd.”

“Dyna pam dani’n gwneud miwsig ni gyd yn DIY hefyd – mae o’n dod a rhywbeth gwahanol iddo fo – yn lle cymryd o’n rhy serious.

Ar hyn o bryd, mae’n gwerthu ei gelf drwy ei gyfrifon gyfryngau cymdeithasol er ei fod yn cydnabod… “dwi’n meddwl dylia fi sortio website allan!”